Fersiynau Lluosog - O Galon Ewrop
___________________________________________________________________________________________________
Cododd y syniad o galon Ewrop yn ystod Cynhadledd ar ‘Iaith, Llenyddiaeth a Chenedl’ a drefnwyd gan Glwb PEN Magyar ac a gynhaliwyd yn Bwdapest yn ystod Hydref 2012, sydd yn cyd-ddigwydd yn llawen gydag achlysur 90 mlynedd Clwb Catalan PEN a Hawliau Ieithyddol Maniffesto Girona.
Mae’r safle hon, sydd yn disodli hen blog a grewyd yn Rhagfyr 2012, yn agor ffenest i’r cyfnewid ffrwythlon ac annisgwyl: fersiynau amlieithog ar y cyd gan grŵp o seiri beirdd rhyngwladol, a ysbrydolwyd gydag organ crwn o faintioli dwrn, yr hyn y mae gwyddonwyr yn cytuno y dylem ymddiried ein bywydau i’w benderfyniadau.
Yn eironig ddigon, er mwyn dealltwriaeth o destunau cyn eu trosi i ieithoedd eraill, yr ydym weithiau yn ildio fel Telesforo Monzon pan nododd wrth y llywydd Lluis Companys, “ ieithoedd y rhai nad ydynt yn ein deall”. ( Manteisiwn ar y cyfle i dalu teyrnged i Felix Cucurull, bardd a hanesydd Catalaneg a adroddodd y chwedl hon.) Ond da y diweddwn wrth lwyddo fel hyn ac mae yn arwydd o gyfiawnder barddol.
Dechreuwyd y cylch gan drosi i’r Gatalaneg gerdd gan Menna Elfyno’i chyfrol ddwyieithog ragorol Perffaith Nam/ Perfect Blemish: “ Teaching Dylan Thomas’s muse to speak Welsh”. Mae’r teitl yn hynod osgeiddig: mae hefyd yn wers wych i’r awen fwyaf amharod.
MWYNHEWCH HWY OLL, OS GWELWCH YN DDA 😉
Cyd-lunwyr Prosiect:
* Aragonese, Basque, Breton, Catalan, Corsican, Croatian, Czech, English, French, Galician, German, Greek, Hungarian, Irish, Italian, Japanese, Luxembourgish, Occitan, Polish, Romanian, Romansh, Scottish Gaelic, Swedish, Sorbian, Spanish, Russian, Turkish, Ukrainian, Yiddish and Welsh.