Mae Sìlvia Aymerich-Lemos, yn fardd, awdur rhyddiaith a chyfieithydd ac yn aelod o Sefydliad Awduron Catalonia (AELC) a Chlwb Pen. A hithau wedi ei hyfforddi mewn sawl iaith a llenyddiaeth yn ogystal â graddio mewn Bioleg, deillia ei hysgrifennu o ehangder cynhwysol ei diddordebau a’i chefndir amrywiol.
Eisoes, cyhoeddodd nifer o gyfieithiadau gan awduron Ewropeaidd ac Americanaidd i’r Gatalaneg a Sbaeneg (Ruskin,Marryat, Conan Doyle, Stoker, Asimov, K. Leguin, Weerth) yn ogystal â’i chyfieithiadau ei hun o’i cherddi i’r Ffrangeg, ac i’r Saesneg ar gyfer adolygiadau llenyddol. Dros y ddegawd ddiwethaf, bu’n ymroi i boblogeiddio gwyddoniaeth a hynny drwy gyfrwng ffuglen, ac mae ei nofelau i bobl ifanc, wedi eu cyfieithu i’r Sbaeneg, a’u hail argraffu nifer o weithiau.
Enillodd, ymysg gwobrau eraill Wobr Barddoniaeth Amadeu Oller, Gwobr Dinas Elx Narrative, ac yn fwy diweddar enillodd sylw ac anrhydedd arbennig iawn yn Perpignan am Balsàmiques, sef casgliad o gerddi am feirdd benywaidd bydeang.