NANTMEL
Gofynnodd gymdoges i mi a oeddwn yn gwybod beth oedd arwyddocâd yr enw Nantmel. Roedd hi wedi bod yn hel achau ei theulu ac roedd cangen o’r goeden deuluol wedi hanu o’r ardal honno i’r de-ddwyrain i Raeadr Gwy yn Sir Faesyfed. Y peth cyntaf a ddaeth i’r meddwl oedd am fod dwr y nant yn felys efallai yr enwyd y ffrwd yn Nantmel. Mae yna Nant y caws yn ffiniau Caerfyrddin, ac mae sawl Nant y Menyn yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. Digon naturiol felly byddai dodi Nantmel dan yr un ymbarél a’r enwau hynny.
OND, ar ôl edrych ar hen ddogfennau mi sylwais doedd ffurfiau cynnar Nantmel ddim yn gytûn a’r ffurf bresennol. Cafwyd Nant Mayl ym 1304, Nantmayl ym 1259 a Nantmaell ym 1391. Yr hyn sydd yma yw ‘nant’ gyda’r enw personol ’Mael’ (tywysog, pennaeth). Ond, yn ogystal a hynny, mae ystyr ‘nant’ wedi newid dros y blynyddoedd. I ni heddiw, ‘ffrwd, afonig’ yw’r ystyr, ond yn wreiddiol roedd ‘nant’ yn gyfystyr a ‘glyn, pant a dyffryn’. Gydag amser, newidiodd ystyr yr enw. Felly mae’r Nant Mael cynnar yn ein hatgoffa am ddyffryn sydd wedi ei enwi ar ôl Mael, gwr gweddol uchel ei fraint a’i statws, yn ôl ystyr ei enw. Aeth Nant Mael yn Nantmel yn yr un modd ag aeth Elfael yn Elfel (Elvel 1299, 1368, Elvell 1440) a Maelienydd i Melienydd (Melenyth 1322, Melenydd 1832). Gyda llaw, Dulas yw enw’r afon sy’n llifo ger Nantmel.
Rhaid bod mor ofalus wrth geisio esbonio ystyron enwau llefydd. Mae’n bwysig dod o hyd i ffurfiau cynnar ar yr enwau gan eu bod yn dueddol i newid eu ffurfiau dros y blynyddoedd (Mael > mel). Mae geiriau hefyd yn gallu newid eu hystyron wrth i ieithoedd ddatblygu (ee. nant).
Mae’n ormod o demtasiwn breuddwydio efallai bod achau fy nghymdoges yn Aberdâr yn ymestyn yn ôl at Mael, yr uchelwr tybiedig hwnnw a roddodd ei enw i ddyffryn hardd yn Sir Faesyfed!