Pontypridd

PONTYPRIDD

Ty pryth 1665

Pont (Newydd) y ty prid (sic) 1699

Pont y Pridd 1699

Pont y Ty Pridd 1764

New Bridge or Pont ypridd 1813

Roedd Ievan Jones ym berchen ar y Ty pryth (ty pridd) ym 1665 ("that messuage called Ty pryth"; Ewyllysiau Llanwynno. LlGC.). Mae Pont (Newydd) y Ty Prid 1699, yn cynnwys dwy elfen wahaniaethol newydd ac y tŷ pridd. Gallai Pont (Newydd) awgrymu roedd y bont yn un newydd ym 1699, neu gallai gyfeirio at Pont Newith, nodwyd gan Leland (1536-39) a oedd yn croesi Afon Taf tair milltir yn is na Pont Rehesk (pont yr hesg) a phedair milltir yn uwch na Pont Landafe . Mae Rhys Amheurig fodd bynnag, yn enwi’r bont rhwng Heske a Landaf yn Yniswern [BGA 1587]. Yn ogystal, cafodd pont un fwa enwog William Edwards (adeiladwyd c1775) yr enw Newbridge. Hwn hefyd oedd yr enw ar orsaf reilffordd y Taff Vale yma ym 1840. Ni oroesodd yr enw hwn rhag ofn ei gymysgu a Newbridge, Sir Fynnwy.

Pontypridd allan o lyfr David Watkin Jones, (Dafydd Morganwg),‘ Hanes Morganwg’, Aberdâr 1874.

Pont un fwa William Edwards 1756.

Mae Pont y tŷ pridd yn cyfeirio at bont wrth ymyl tŷ pridd. Mae pont y tŷ pridd yn rhagflaenu pont Edwards, ac er nad yw Leland yn ei enwi felly, gallai’r tŷ pridd wedi sefyll yn agos at ei Pont Newith.

Mae arwyddocâd ‘pridd’ yn nisgrifiad y tŷ, yn debygol o gyfeirio at furiau pridd y tŷ. (cf. Gwaun y tŷ pridd, Margam; Tŷ pridd, Caerf. , Mon., a Meirion.; Tyddyn pridd, Trefldn., Mon.; Muriau pridd, Caernfn. yn ogystal a Priddy, Gwlad yr Haf.)

Mae Pontypridd yn ffurf gwta ar Pont y tŷ pridd. Efallai byddai Pont-tŷ-pridd yn fwy addas.