GLYN-MERCHER
Enw dwy ffarm bellach ym mhlwyf Ystradfellte ydy Glyn-mercher-uchaf a Glyn-mercher-isaf. Mae’r elfennau uchaf ac isaf yn gwahaniaethu rhwng y ddwy ffarm a fu gynt yn un daliad tir.
Mae’r elfen mercher yn brin ac anghyffredin mewn enwau lleoedd. Dyma’r unig engraifft yng Nghymru am wn i sydd yn ei gynnwys. Mi wn am enwau timoedd pel-droed sy’n cynnwys enwau’r wythnos yn Saesneg megis Sheffield Wednesday ac Abregavenny Thursdays ond ni wn am enwau tebyg yng Nghymru. Beth felly yw hanes yr enw?
Gwelwn taw Clun Marcher isaf sydd ar fap 1830 yr Ordnans a Tire Clyn Marchyr Ycha yw’r enw sydd ar ewyllys Morgan Jones ym 1740. Yn gyntaf rhaid sylwi taw clun (maes, dôl) yw’r elfen gyntaf yn hytrach na glyn, ac yn ail, nid yw’r gair mercher yn bresennol yn un o’r ddau. Os ewn ymhellach yn ôl ac edrych ar ewyllys John Griffith Morgan ym 1666 (trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) nodwn mai Tir Clinmarchen a Clin marchen yw enwau’r daliad tir.
(“called clin marchen:”; ewyllys J. G. Morgan, 1666).
Amrywiaeth yw Marchen ar yr enw personnl Marchan. Digwydd y ddau yn gyffredin fel enwau personnol mewn enwau lleoedd, cf. Tref Marchan, Sir Benfro; Coed Marchan, Llansanffraid ar Elái; Coed Marchen, Dinbych; Cae Marchen, Llandygai; Tir Allt Marchan, Llandyfalle, Brycheiniog; Ynis Marchan, ?Treganna, Llyfr Llandaf, a Llanmerchan, Sir Benfro.
Mae’r enw personnol Marchan yn cynnwys march a’r olddodiad bachigol –an sy’n rhoi march neu ceffyl bach neu ifanc. Dros amser, collwyd arwyddocad yr enw personnol a newidiwyd yr elfen drwy eirdarddiad poblogaidd i Marchyr, Marchyr ac yna Mercher er mwyn cynnwys gair dealladwy. Cymherer Pant Cyfnerth gynt ym mlwyf Penderyn sydd, erbyn heddiw’n Pant cefnyffordd.
Mae Glyn Mercher wedi newid o’r enw cynnar Clun Marchen. Ystyr Clun Marchen yw “dôl Marchen”, hynny yw, darn o dir a fu unwaith yn eiddo i wr o’r enw Marchen.