FFYNNON-Y-GȎG
Ffynnon-y-gôg yw’r enw presennol ar fferm yng Nghefnpennar, ac mae’r enw wedi cael ei gyfieithu i ‘cuckoo’s well’. Yn wir ffynnon goge oedd yr enw ym 1600, a gallech gael eich esgusodi wrth feddwl taw’r un ystyr oedd i’r enw y pryd hynny, ond yn anffodus dyw hynny ddim yn wir. Mae ffurfiau tir y Fynon Goeg 1570, a tire y ffynon goig 1666 yn dangos taw ffurf dafodieithol goeg yw elfen olaf ffynnon goge 1600. Yn y De rydym yn ynganu coed yn côd, coes côs, troed trôd, ac yn y blaen. Felly camsyniwyd coeg ‘gwag’ (empty), ar ffynon oedd yn sych ar brydiau, am yr aderyn côg ‘y gwcw’, a dyna phaham y cyfieithwyd yr enw i ‘cuckoo’s well, yn hytrach na ‘the empty well’.
Mae’r gwrthwyneb wedi digwydd i Bargoed/Bargod, enw ar afon a thref yng Nghwm Rhymni, lle mae bargod ‘ymyl, ffin, goror’ wedi cael ei gamgywiro i bargoed wrth i rhai gredu taw coed yn y ffurf dafodieithol côd oedd yn yr enw. Mae’n debyg roedd Bargod Rhymni yn enw ar nant oedd ar y ffin rhwng rhai o diroedd y Brithdir a Senghennydd uwch Caeach. Heddiw, rydyn ni’n gyfarwydd a bargod to tŷ – ‘eaves’ yn yr iaith fain, sydd ar ymyl y to. Hwyrach mae’n debyg taw Y Ffynnon goeg a Bargod byddai’r ffurfiau geirdarddiadol gywir i’r ddau enw uchod. Camgywiriadau neu chamddealltwriaeth achosodd i’r enwau newid i Ffynnon y gôg a Bargoed.
DMJ. O dan nawdd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.