SAUNDERSFOOT
Pan mae pobl yn sôn am Saundersfoot y dyddiau yma, y peth cyntaf a ddaw I’r meddwl yw pentref bach lliwgar a thraeth melyn ar lan y mor. Mae’r harbwr yno yn denu gwyr a’u cychod a badau o bob math ar gyfer hwylio, pysgota, sgïo ac yn y blaen. Mae’r hostelau, gwestiai, tafarndai a’r siopau fel arfer yn llawn twristiaid drwy gydol yr haf.
Ond tyfodd y pentref fodern, nid oherwydd twristiaeth, ond oherwydd diwydiant glo’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Agorwyd yr harbwr ym 1835 ar gyfer y diwydiant hwnnw. Roedd ceffylau yn tynnu tramiau glo yr holl ffordd o Thomas Chapel a Stepaside, heibio Pont Wiseman a thrwy’r twneli i Coppet Hall a harbwr Saundersfoot. Caewyd y dramffordd ym 1939 a chaewyd yr olaf o’r pyllau glo yn ystod pumdegau’r ganrif ddiwethaf. Mae’r hen dramffordd o Bont Wiseman i Saunderfoot bellach yn rhan o lwybr poblogaidd arfordirol Sir Benfro.
Mae ffurfiau cynharaf yr enw lle yn digwydd megis Sanndersfoote 1595, Saunders foot 1602 a Sanders Foot 1764. Yr enw personol Sanders/Saunders, ffurf anwes ar yr enw Alexander, yw’r elfen gyntaf. Mae tystiolaeth ar glawr i Walter Elisander gadw melin yn yr ardal ym 1330-31. Mae’n debygol taw enw teulu’r Elisander hwn, wedi ei gwtogi i Sander a Saunder, yw’r un yn enw Saundersfoot.
Mae’r ail elfen foot yn disgrifio nodweddion topograffaidd, mwy na thebyg. Yn Lloegr, mae foot yn gallu golygu tir ger aber nant, ee. Beckfoot, Cumbria. Yn ogystal, gall foot olygu tir ar droed neu waelod fryn neu fryncyn, cym. ein Troed y rhiw ni yng Nghymru, a Lullingesfoote yn swydd Dyfnaint. Yn anffodus mae Saunderfoot wedi ei leoli ger aber nant fach (sy’n llifo i’r harbwr) a hefyd ar waelod ddau dyle. Felly, mae’n anodd dewis pa un sy’n berthnasol yma. Mae B. G. Charles (awdur Non-Celtic Place-Names in Wales) yn credu taw troed rhiw Saunders yw’r fwyaf tebygol.
Ond, mae ‘na bosibilrwydd arall. Mae’r planhigyn alisander (smyrnium olusatrum) yn hoff iawn o’i le ar lan y mor, ac os gerddwch chi adeg y gwanwyn, ar y llwybr rhwng Pont Wiseman a Saundersfoot, mi welwch chi ganoedd o flodau melyn y planhigyn hwn. Mae’n bosib taw dyma’r alisander sydd yn yr enw, gyda foot yn golygu ‘nant’, a’r oll i gyfleu ‘nant (blodau’r) alisander’ – Saundersfoot.