Afon Dringarth
Enw ar afon yn codi ar Fan Dringarth ac yn bwydo cronfa ddwr Ystradfellte, yna’n llifo heibio adfeilion Blaentringarth, ffermydd Penfathor Uchaf ac Isaf cyn ymuno ac Afon Llia ger Castell Mellte i ffurfio Afon Mellte. Ceir Y Fan Dringarth, Cwm Dringarth a Rhos-dringarth ar fapiau’r Ordnans yn bennaf. Bu fferm Blaentringarth yn gartref hyd chwarter cyntaf y ganrif ddiwethaf, ond heddiw, adfeilion unig yw adeiladau’r dyddiau gynt. Ymddengys mai eithriad annisgwyliadwy yw Trwmgarth 1666. Mae’n debyg i Tringarth droi’n Dringarth ar ôl y fannod golledig.
Afon Dringarth 1970 Map yr Ordnans
Fan Dringarth 1970 ibid
Blaentringarth 1911 Cyfrifiad (teulu McNelly)
Cwm Dringarth 1900 Map yr Ordnans
Dringarth 1832 Map 1” yr Ordnans
Rhos-dringarth 1832 ibid
Y Fan-dringarth 1832 do
Blaen-tringarth 1832 do
Tringarth Brook 1819 Map Coedwigoedd Brycheiniog
Trengarth 1809 HB
Tyr Blaen Tryngarth 1784 Ewyllys Morgan Jenkin
Trwmgarth 1666 Ystad Tredegar
A river called Tringarth 1588 Ystad Tredegar
Bu sawl ymgais ar esbonio ystyr yr enw gan gynnwys y ffansȉol ‘Blaen-trin-yr-allt’ a ‘Treng-arth’ (treng ‘perish’ ac arth ‘bear’). Cynigodd Theophilus Jones yn ei History of the County of Brecknock, 1809 (HB uchod) “...Tringarth, correctly Trengarth, from tren, impetuous or rapid, and garth, a cliff from whence it springs”. Roedd R. F. Peter Powell (Place-names of Devynock Hundred) o’r farn taw trin ‘battle’ a garth “mountain range, promontory hill” oedd elfennau’r enw, er iddo gyfadde nad oedd unrhyw dystiolaeth am frwydyr filwrol yn yr ardal.
Mae ffurf Tringarth 1588 yn cadarnhau elfennau R. F. Peter Powell. Efallai byddai Mr Powell wedi dod yn nes at ystyr yr enw petasai wedi meddwl am frwydyr ffigurol rhwng y tir ac elfennau natur yn hytrach na brwydyr hanesyddol filwrol.
Wrth edrych ar y lluniau isod chwi welwch creithiau ar wyneb y tir sy’n dystiolaeth o’r ‘frwydyr’ a fu dros y blynyddoedd rhwng dwr a thir. Mae’r elfen garth yma, yn golygu cefnen o dir. Byddai Tringarth felly yn gyfystyr a brwydyr ffigurol ar gefnen o dir, a byddai’n addas iawn am enw afon sy’n casglu’r dwr ac yn brwydro drwy’r drafferthus dir.
Mae Richard Morgan, awdur ac arbenigwr mewn geirdarddiadau enwau lleoedd, yn cytuno gyda’r elfen ‘trin’ wrth awgrymu’r posibilrwydd cafodd Afon Dringarth ei henw am iddi frwydro ei ffordd yn ffigurol drwy dir anodd a charregog. Rwy’n ddiolchgar iddo am ei gymorth a’i gefnogaeth.
Mae’r llun uchod yn dangos afon Tringarth yn gadael cronfa ddwr Ystradfellte ar ei ffordd i ymuno ac afon Llia. Mae’r llwybr ar y chwith wedi ei seilio ar y dramffordd a godwyd ar gyfer adeiladu’r gronfa ddwr cyn ddechrau’r rhyfel byd cyntaf.
Llun argae cronfa ddwr Ystradflellte gan Alan Richards