LLANOFER
Clywsom llawer am Arglwyddes Llanofer, ‘Gwenynen Gwent’ eleni tra roedd yr Eisteddfod genedlaethol yn y Fenni. Ganwyd Augusta Waddington, yn y Ty Uchaf, Llanofer ym 1802, yn un o dair merch i Benjamin a Georgina Waddington, Saeson a symudodd yno o Swydd Nottingham. Priododd Augusta a Benjamin Hall, Abercarn a ddaeth yn aelod seneddol. Cafodd ei ddyrchafu i’r Arglwyddi dan yr enw Baron Llanover, a felly, derbyniodd hi’r enw yr Arglwyddes Llanofer. Bu’r ddau yn gefnogol iawn i Gymru a dweder i’r Arglwyddes rhoi nawdd a chefnogaeth amrhisiadwy i ddiwylliant Cymraeg. Mae’n debyg taw’r Arglwyddes oedd yn gyfrifol am gynllunio’r wisg draddodiadol genedlaethol.
Mae’r Arglwydd a’r Arglwyddes Llanofer wedi eu claddu yn eglwys Sant Bartholomew, Llanofer. Gyda llaw, cafodd cloch cloc enwog San Steffan ‘Big Ben’ ei enwi ar ol Benjamin Hall, (hwyrach Arglwydd Llanofer). Ef oedd Prif Comisiynydd Gweithfeydd y wlad pan cafodd y gloch ei bwrw ym 1858.
Eglwys Sant Bartholomew, Llanofer.
Ond beth am yr enw Llanofer? Ar y wyneb mae’n edrych fel eglwys segur neu gwastrafflyd, ond mae hynny’n bell o’r gwirionedd. Mae’r ffurfiau cynnar – Lammovor 1285 a Llanimor 1291 yn cynnwys yr elfen llan gyda’r enw personol Myfor. Ym Myfor gwelir y rhagddodiad parch neu annwyldeb my a’r enw personol Mor. Digwydd yr un enw personol ym Merthyr Myfor, hwyrach Merthyr Mawr. Ystyr Llanofer felly yw eglwys Myfor.