Os edrychwch ar fapiau o Gwm Cynon dros y ddwy ganrif ddiwethaf ni welwch enw Tir y Pumpunt. Yn syml iawn mae’n enw coll. Mae hyn yn digwydd i sawl enw dros y blynyddoedd ee. Tir Cwmwr Shon, Tir Dafydd Sais, Ton Dafydd Bengrych etc.
Gwyddom i Dir y Pumpunt fodoli ym mhlwyf Aberdâr oherwydd mae enghreifftiau ohonno'n digwydd mewn hen archwiliadau ac arolygon tir, ee. Tyr y pimp pint 1759, Tyr y pimpint 1666, Tyr y pym pint 1582 etc. Hyd yn hyn, 1582 oedd blwyddyn yr enghraifft gynharaf, ond wrth ddarllen cyfres newydd o farddoniaeth ‘Beirdd yr Uchelwyr’ des i ar draws Tir y pumpunt mewn un o gerddi Hywel Dafi, a flodeuodd rhwng 1440 a 1485.
Cred rhai roedd Hywel Dafi yn frodor o Aberdâr, ond barn ysgolheigion heddiw yw iddo gael ei eni a’i fagu o fewn rhyw bymtheng milltir i dref Aberhonddu. Serch hynny, roedd yn gyfarwydd a Chwm Cynon. Yn ei gywydd ‘Gofyn bydafau gan Lywelyn Goch ab Ieuan’ mae Hywel Dafi yn enwi Aberdâr, Llwytgoed ,Tir y pumpunt, Misgin ( y cwmwd yn hytrach na’r pentref ger Aberpennar) ac afon Cynon:-
“Rhoed ym fêl Llwytgoed yn llon
A gwenyn dwylan Gynon.
Tir y pumpunt o’r unty
A Llwytgoed – da felgoed fu.”
Mae’r gair ‘bydyfau’ yn nheitl y gerdd yn ffurf luosog ar ‘bydaf’, sy’n golygu haid neu nythaid o wenyn gwyllt. Digwydd yn enwau llefydd Pantyfyda, Esgairfyda, Nantfyda, Sir Gaerfyrddin a Gwernfyda, Llanllugan, Sir Drefaldwyn.
Ond yn ôl at Tir y pumpunt. Mae’n debygol taw pum punt oedd y pris cynnar a dalwyd am brynu neu rentu’r tir. Cf. Tir Deunaw (swllt a chwe cheiniog), Abertawe. Roedd pum punt yn swm enfawr yr adeg honno (c1450) ac fe fyddai Tir y pumpunt felly yn siwr o fod yn helaeth o ran ei faint. Ond ble oedd y tir?
Yn ffodus, mae archwiliad 1582 yn enwi tiroedd oedd yn ymylu a Blaen nant y groes, ac roedd Tyre y pimpint yn un ohonynt. Mae archwiliadau 1638 a 1666 yn mynd gam ymhellach ac yn enwi ffermydd a llefydd oeddent yn rhan o Dir y Pumpunt megis Blaennant y wenallt, Tire y Gwryd ycha ac ysha, Tir y Gwryd, Tir y Werva, Tyre a Pant y Gerdinen, Tir y cole a Tir y Ton hire. Ar sail yr enwau hyn, medrwn fod yn fwy sicr am leoliad Tir y pumpunt a’i osod tu fewn i amlwd Cefnpennar, ac yn ymestyn o Bant y Gerdinen i Blaen Nant y Wenallt, gan gynnwys tiroedd y Gwryd, Werfa a Graig y Gilfach.
Map yn frasddangos lleoliad a maint Tir y pumpunt gynt.
Ysgrifennwyd cerddi Hywel Dafi ar gyfer uchelwyr a noddwyr mewn ardal oedd yn ymestyn o Went I Gaerfyrddin ac o Frycheiniog i dde Forgannwg. Roedd rhai o’i berthnasau yn noddwyr iddo, ac yn ffodus i ni, roedd yr un o Rydlafar, yn berchennog bydyfau yng Nghwm Cynon ac roedden nhw’n tynnu dwr o ddanedd melys yr hen Hywel Dafi.
[Rwy’n ddiolchgar i A. Cynfael Lake am ei ddwy gyfrol ‘Gwaith Hywel Dafi I’ a ‘II’, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 2015.
ON. Ni nodir ‘Tir y pumpunt’ yn adran ’ Enwau Lleoedd’ y gyfrol.]
DMJ. Paratowyd yr erthygl hon o dan nawdd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.