Bronllys
BRONLLYS
Mae Bronllys yn enw ar bentref ar yr A438 rhwng Aberhonddu a Thalgarth. Ar
yr olwg gyntaf, mae'n edrych fel taw'r elfennau bron a llys sydd yn yr enw,
gyda'r ystyr naill ai 'ger y llys' neu 'bryn (ar ffurf bron) y llys', ac yn
wir, y mae castell yno a fyddai'n cryfhau ystyr yr ail elfen.
Ond, ffurf cynnar yr enw yw Brwynllys (Broynllys 1553, hyd Vrwynllys 15fed
ganrif). Gall Brwyn fod (1) yn enw personol; (2) yn ansoddair 'trist' neu
(3) yn enw, 'planhigion yn tyfu mewn cors'. Mae un o 'Englynion y Beddau'
yn Llyfr Du Caerfyrddin (tud. 65) yn son am 'mab y Bruin o Bricheinauc', yn
ein orgraff ni 'mab Brwyn o Frycheiniog'. Roedd y Brwyn yma'n ddyn o bwys,
ac mae'n bosib roedd ei lys ar safle'r castell a'i dilynodd. Mae esiamplau
cynnar eraill o'r enw personol Brwyn, ond bellach, nid yw'n gyfarwydd i ni
fel enw personol. Roedd Bedo Brwynllys yn enw ar fardd o'r ardal yn ystod y
bymthegfed ganrif.
Aeth sillafiad Brwynllys i Broynllys (yn yr un modd yr aeth Llwyd i Lloyd),
ac yna newidiwyd Broynllys i Bronllys.
[Diolch i'r diweddar Athro S. J. Williams (tad y diweddar Urien Wiliam) am
llawer o'r wybodaeth uchod.]