Dyma’r enw presennol ar fferm wrth ochr y ffordd gefn rhwng Penderyn a’r Rugos, nepell o eglwys plwyf Penderyn. Mae’r enw’n edrych yn addas iawn ac yn cyfateb i’r lleoliad – mewn pant ar y ffordd gefn. Ond mae map y degwm 1840, yn enwi’r fferm Pantycynferth ac mae’r ail elfen cynferth yn anodd ei hesbonio. Wrth lwc, mae ffurfiau cynharach Pantcyfnerth 1796, Pant Kevenerth 1567, a Tir Pwll Kyfnerth 1553 yn cadarnhau taw cyfnerth yw elfen olaf yr enw yn hytrach na cynferth.
Dros y canrifoedd aeth cyfnerth yn cynferth drwy fetathesis, hynny yw drwy i’r llythrennau ‘f’ ac ‘n’ newid lle. Digwyddodd yr un broses yn yr enwau Dynfant, gynt Dyfnant (dwfn & nant, - mae nant yma’n golygu glyn, dyffryn dwfn), Llynfi, gynt Llyfni a Llynfell gynt Llyfnell (llyfn ‘esmwyth’ sy’n disgrifio rhediad yr afonydd). Ond beth wnewch chi o ‘cyfnerth’?
Mae’n amlwg bod y gair nerth ‘cryfder’ i’w weld yn yr enw, ac yn wir mae GPC yn cynnwys cyfnerth fel enw ‘cymorth, cynhorthwy, cryfder...’ etc. ac ansoddair ‘cadarn, nerthol grymus...’ etc. Felly byddai Pant cyfnerth yn golygu ‘pant cynorthwyol’ a Pwll cyfnerth yn ‘bwll cynorthwyol’.
Ond, mae Archif Melville Richards yn dangos sawl enghraifft o’r oesoedd canol gyda Cyfnerth fel enw personol ee. Tir Ievan ap Cyfnerth, Tyddyn Cyfnerth etc. ac yn wir mae un o lyfrau cyfreithiau Hywel Dda yn dwyn y teitl Llyfr Cyfnerth. Felly mae’n bosib taw’r enw personol sydd yn enwau ‘Pant Cyfnerth’ a ‘Pwll Cyfnerth’.
Pwll Pantcefnyffordd yn 2014, gynt Pwll Cyfnerth.
I grynhoi felly, aeth ‘Pwll Cyfnerth’ yn ‘Pant Cyfnerth’ ac yna, drwy fetathesis, yn ‘Pant Cynferth’. Pan gollwyd ystyron ‘Cyfnerth’ a ‘Cynferth’ bathwyd Pant cefn y ffordd er mwyn gwneud synnwyr a rhoi ystyr i’r enw.