Y MWMBWLS
Mae’r Mwmbwls (Mumbles y Saeson) yn enw ar bentref a phenryn ger dwy ynys fach yn agos at bentref Ystumllwynarth (Oystermouth), Abertawe. Mae sawl ymdrech wedi ei gwneud at esbonio geirdarddiad yr enw. Mae Thomas Morgan (Place Names of Wales and Monmouthshire) yn cysylltu’r enw gyda mwmblan cyson y môr. Mae Howard C. Jones (Place Names in Glamorgan) yn sôn am y Feiciniaid yn ei nodyn ar yr enw, ac mae Hywel Wyn Owen a Richard Morgan (Dictionary of the Place-Names of Wales) eto’n sôn am Hen Norseg múli ‘trwyn, penryn’ fel posibilrwydd.
Mae’r ffurfiau cynharaf Mommulls 1549, Mommells 1583 yn ymdrech at sgrifennu ffurfiau Ffrenging (les mammelles) sydd a’u tarddiad, mwy na thebyg, gyda dyfodiad y Normaniaid ym Mro Gwŷr. Mae mammelles wedi eu seilo ar luosog bachigol Lladin mamilla, mamillas ‘bronnau bach’. Wrth edrych ar y llun uchod mi sylwch fod y ddwy ynys yn debyg iawn eu golwg i ‘fronnau bach’. Erbyn 1610 roedd y lythyren ‘b’ wedi ei hymwthio rhwng yr ‘m’ a’r ‘l’ megis Mumbles poynt (Speed). Digwydd hwn yn aml, sef ‘humble’ (o’r Lladin ‘humilis’); ‘mumble’ (gynt ‘mumle’) ac ar lafar megis ‘chimbley’ (gynt ‘chimley’ o ‘chimney’).
Bryniau eraill sydd yn gysylltiedig a’r Lladin mamma ‘bron’, oherwydd eu ffurfiau, yw Moel Famma, Dinbych/Fflint; Mam Tor, Derby a Mansefield (gynt Mammasfelde, ‘maes ger y bryn ar ffurf fron’.
Mae’r MWMBWLS yn ffurf Gymraeg ar Mumbles.
Deric Meidrum John, 18.4.2011