GELLI DAFOLOG/GELLI DIAFOLWS
Dau enw tebyg ar dyddyn ger Ynyswendraeth (Ynysbendorth) uwchben y Lamb ym Mhenderyn yw Gelli dafolog a Gelli Diafolws. Sgrifennodd David Davies (Dewi Cynon) am Gelli Diafolws yn ei lyfr gwych ar ‘Hanes Plwyf Penderyn’ (1905). Yno mae’n cyfieithu’r enw i ‘The Devil’s Hazel Grove’ er iddo gyfaddef ‘Myn rhai mai Gellidafolog ydyw yr enw’. (tud. 13.) Mae Nansi Selwood hefyd wedi sgrifennu’r enw Gellidiafolws ar fap (cyn 1750) yn ei llyfryn twt a chryno, ‘Penderyn – A history by Nansi Selwood’ (1990).
Ond, mae gwŷr yr Ordnans yn ffafrio Gelli Dafolog ar eu mapiau diweddaraf (Gelli-dafolog 1991, 1905), er iddynt sgrifennu Gelli Davolas ar fap 1830. Yn wir, mae’r ffurfiau cynnar, hyd at 1861, yn weddol gyson gyda dyfolas/davolas am ail elfen i’r enw. Mae’n hawdd felly i rhywun weld y ‘diafol’ gyda’r olddodiad –ws yma, a dehongli a chyfieithu Gelli Diafolws yn ‘the devil’s hazel grove’.
Pan ddwedodd Dewi Cynon ‘Myn rhai mae Gellidafolog ydyw yr enw’, mi ddylai wedi dilyn eu cyfarwyddiad. Mae’r ffurfiau tafolog, tafolas a tafolws (gyda’r ffurfiau treigledig dafolog, dafolas, dafolws) oll yn cynnwys yr enw Cymraeg tafol gyda’r olddodiad ansoddeiriol –og, neu’r olddodiad torfol –os (-ws yn y dafodiaith leol). Planhigyn yw’r tafol – ‘dock plant’ yn Saesneg. Dail tafol rydym yn rwbio ar ein croen ar ôl cyffwrdd a danadl poethion. Byddai’r ail elfen yn disgrifio man lle roedd llawer o ddail tafol.
Celli (llwyn) yw’r elfen gyntaf. Byddai’r enw gwreiddiol yn cynnwys y fannod, ac felly, byddai Celli Dafolws/Dafolog yn treiglo – Y Gelli Dafolws/Dafolog. Mewn amser, collwyd y fannod ond erys y treiglad – Gelli Dafolws/Dafolog. Mae’n debyg enillodd Gelli Dafolog y dydd dros Gelli Dafolws/Diafolws er mwyn parchusrwydd. Nid oedd Cristnogion oes Victoria Penderyn eisiau’r ‘diafol’ yn eu plith!
Arferai Cymry Cymraeg yr ardal lefaru Gellifolws. [Gweler erthygl Nansi Selwood yn Llafar Gwlad rhif 11, 1986.]