TRE-IFOR
Enw ar ystad tai cyngor yn Llwydcoed yw Tre-Ifor. Cafodd yr ystad ei hadeiladu ym 1938 o dan arweiniad Ifor Bryant, tirfesurwr Cyngor Tref Aberdâr ar y pryd. Yn wir, enwyd yr ystad ar ei ôl er mawr barch iddo.Yma, mae ‘tref’ yn golygu casgliad o dai yn hytrach na chasgliad mawr o dai, siopau a busnesau. Casgliad o dai sydd yn Tregwilym, Tretelynog, Trenant a Thregibwn hefyd.
Cyn 1938, roedd safle Tre-Ifor yn faes pel droed. Roedd y trigolion yn adnabod y maes dan yr enwau ‘Coroner’s Field’ a ‘Buxton’s Field’. Y ‘crwner’ oedd R. J. Rhys (nai R. H. Rhys, ‘Blind Rhys’/’Rhys ddall’). Bu’r ddau’n byw yn Plas Newydd. Prynodd Richard Buxton (asiant a chyfarwyddwr glofeydd y Bwllfa) Plas Newydd (25 erw) ym 1927 oddiwrth Mervyn Owen Wayne Powys, Caerfaddon, (perthynas teulu’r Wayneiaid a adeiladwyd Plas Newydd). Gwerthodd Richard Buxton rhan o dir plas Newydd i Cyngor y Dref ym 1938 ar gyfer ystad tai Tre-Ifor.
Gyda llaw, ystyr Plas Newydd yw’r ‘lle newydd’. Daw ‘plas’ o’r Saesneg ‘place’. Yng Nghymru ddaeth i gyfeirio at dai bonedd a thai crand. Nid yw fodd bynnag mor crand a phalas (ee. Palas Buckingham) a ddaeth o’r Lladin Palatium, enw ar fryn yn Rhufain lle adeiladwyd tŷ’r ymherawdwr Awgwstws, cf. Y Palladium gynt yn Aberdâr. Mae Plas Newydd yn enw poblogaidd iawn yng Nghymru.
Rwy’n ddiolchgar i Jean a Russell John am ‘Llwydcoed in Old Photographs’ ac i Geoff Evans, Plasdraw am ei gymorth wrth baratoi’r erthygl.
Paratowyd yr erthygl hon dan nawdd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. DMJ