LLEWITHA
Yn ystod yr haf, digwydd i Wyndham fy nghefnder a finnau deithio ar y ffordd rhwng Fforest-fach, Abertawe a Phontybrenin ger Casllwchwr. Cyn i ni gyrraedd pont dros yr afon Llan, dyma Wyndham yn dweud “ Dyma’r lle waethaf yng Nghymru!”. “Y lle waethaf yng Nghymru?” gofynnais mewn syndod, “Paid a siarad dwli”. “Dishgwl!” meddai gan godi ei law ac arwain fy llygaid tuag at arwyddbost ar ochr y ffordd a ddwedai ‘PONT LLEWITHA’. “Dyna ni” meddai “Ddwedais i wrthot ti ond do fe?”. Gallwn ddweud dim. Roedd y dystiolaeth i’w weld o flaen fy llygaid. ‘Llewitha’ – y lle *witha?
*gwitha yw gwaethaf yn y dafodiaith leol.
Pan es i adref, mi edrychais ar fap yr ordnans 1886, er mwyn gweld os oedd enw gwahanol i’r lle, ond na – yr un oedd yr enw ‘Llewitha Bridge’.
Wrth lwc, roedd gen i gopi o lyfr ‘Ar Draws Gwlad ‘, Gwasg Carreg Gwalch, ac yno ar dudalen 87 roedd yr athro emeritws Gwynedd O Pierce wedi sgrifennu esboniad ar yr enw. Er i Wyndham a finnau fynd dros bont afon Llan, enw weddol ddiweddar (1799) i’r afon yw’r Llan (mae’n debyg cafodd hi’r enw Llan am iddi lifo drwy blwyf Llangyfelach ar ei ffordd i ymuno a’r afon Lliw ger Casllwchwr).
Esboniodd yr hen Athro i’r afonydd Lliw a Llan, ar un adeg, gael enwau tebyg iawn iddi gilydd. Adweinid yr afon Lliw a lifai o Felindre, dan Bontlliw a Phontybrenin wrth yr enwau Northyr Lyu (y Lliw ogleddol) a Llugh ye greater (y Lliw fwyaf). Adweinid afon Llan wrth yr enwau Llugh ye lesser ( y Lliw leiaf) ac y Llyw Ytha (y Lliw Eithaf, neu’r bellaf)
Aeth y Lliw eithaf yn Llewitha ar fapiau ac arwyddion ffyrdd, o dan ddylanwad y dafodiaith leol a geirdarddiad poblogaidd. Mae hen enw’r afon felly wedi goroesi ym Mhont Llewitha. Rwy’n siŵr bod y bobol lleol yn ddiolchgar i’r Athro am esbonio taw nad eu pont nhw yw’r lle waethaf yng Nghymru.
Deric Meidrum John. Ionawr 2011.