TIRGWYNBACH
Dyma’r enw ar darn o dir tu ôl i hen safle gwaith haearn Hirwaun. Mae’r enw yn anodd i’w gyfieithu – ai tir sy’n perthyn i wr o’r enw Gwyn Bach, nau ai darn o dir sydd yn fach ac yn wyn ei liw?
Mae hen ffurf yn nogfen Maybery ym mlwyddyn1758 yn dangos ‘Ty and Tyr Gwyn Bach’. Mae hwn yn drysu dyn oherwydd mae’n bosib nawr taw’r tŷ sy’n wyn ac yn fach neu’r tŷ sy’n perthyn i Gwyn Bach.
Ond arhoswch funud. Mae ewyllys Evan Thomas, 1711 yn recordio ‘Tire y tu gwinbâch’ neu Tir y tŷ gwyn bach yn ein horgraff ni heddiw. Dengys hwn bod y tir wedi cael yr enw am fod tŷ bychan, gwyn ei liw yn perthyn iddo.
Felly dylai map yr ordnans ddangos Tir y tŷ gwyn bach er mwyn cadw at yr ystyr a’r enw gwreiddiol.
Mae’r ffurfiau cynnar yn hanfodol er mwyn dod o hyd at wir ystyron ein henwau lleoedd.
A dyma fe – y Tŷ Gwyn Bach, drwy garedigrwydd lluniau RCT.
Mae’r tŷ sydd yn y llun wedi ei foderneiddio oddiar y 1700au cynnar pan roedd Evan Thomas yn byw yno. Roedd Francis Crawshay yn byw yno rhwng 1830 ac 1850 ac mae’n bosib taw efe oedd yn gyfrifol am y diwigiad.
Paratowyd yr erthygl hwn dan nawdd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.