Pan ddechreuais ddysgu yn ysgol y Faenor a Phenderyn yn y saithdegau cynnar, ces i’r fraint o ddysgu dau o feibion y bocsiwr byd enwog Howard Winstone. Yna fe symudodd y teulu o Gefn coed i Robertstown i gadw tafarn y Gadlys Arms. Roeddwn i’n crafu fy mhen wrth geisio esbonio i’r bechgyn, sut roedd y Gadlys Arms yn Robertstown yn hytrach na’r Gadlys. Wrth lwc, roeddwn yn aelod o’r gymdeithas hanes yn Aberdâr, ac mi esboniodd un o’r aelodau, Tom Evans athro daearyddiaeth ysgol ramadeg y bechgyn, bod Robertstown wedi ei adeiladu ar dir fferm y Gadlys Uchaf, ac roedd hi’n eithaf naturiol felly i’r dafarn ddefnyddio enw’r Gadlys.
Yna, mi ddarllenais erthygl gwych y Dr. Brinli F. Roberts ar enwau lleoedd Aberdâr yn Old Aberdare, 7, ac mi welais fod yna enw Gymraeg dilys i bentref Robertstown sef Tresalem.
Capel Salem a thafarn y Gadlys Arms yn Robertstown/Tresalem. Llun © Deric John.
Dyma ddau enw hollol annhebyg felly ar gyfer yr un pentref a’i hadeiladwyd ar dir y Gadlys Uchaf tua phedwardegau y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Daeth yr enw Robertstown (Roberts & town) i fodolaeth tua 1850 ( Robert’s Town 1853) ar ôl enw teulu’r Robertsiaid, perchnogion tir y Gadlys Uchaf. Roedd Lewis Roberts (1783-1844) a’i fab James Lewis Roberts (1810-1864) yn ddoctoriaid ac yn ddynion pwysig yn yr ardal. Roedd y teulu wrth eu bodd gan i’r pentref newydd gymryd eu henw teuluol. Roeddent mor falch o’u henw, mi osodont garreg fedd enfawr drostynt ym mynwent eglwys Sant Ioan, Aberdâr gyda’r geiriau “The Roberts’s of Gadlys”.
Adeiladwyd Capel Salem ym 1841 ar ôl i’r ffyddloniaid adael Tŷ Planca (a oedd bellach yn rhy fach iddyn nhw), a chroesi afon Cynon at fferm Y Meysydd ar dir ystad y Gadlys Uchaf. Wrth i’r pentref newydd ddatblygu o gwmpas y capel, roedd hi’n naturiol i’r Cymry Cymraeg ei alw’n Tresalem (Tref Salem 1854, Tresalem 1860). Bu hyd yn oed ymgais gan y Cymry ddi-Gymraeg i’w alw’n Salem Town (Salem Town 1852). Am fanylion pellach gwelwch Michael Eyers The Masters of the Coalfield.
Dyma lun arwyddbost ar waelod tyle Abernant. Sylwch ar 'Yst Ddiw Robertstown'.
Ydyn ni’n mynd i adael i rhyw weision bach llywodraethol di-ots, dwyn a suddo’n Cymreictod a’n treftadaeth ?
Cofiwch Tresalem!
Deric Meidrum John 24.4.10