Pan roeddwn yn athro, yn ysgol gyfun y Faenor a Phenderyn, Cefncoed, rhai blynydde’n ôl bellach, mi ddwedodd un o fechgyn Penderyn wrtho i ei fod e’n saethu cwningod, a gofynnodd os hoffwn flasu un ohonyn nhw. Holais iddo ble’r oedd e’n eu hela nhw, ac mi atebodd yn eithaf naturiol ‘up the Vole sir’.
Yn ddiwybod iddo ef ei hunan, roedd y crwt di-Gymraeg wedi ynganu enw’r lle yn berffaith, yn y dafodiaith Gymraeg lleol.
Un o nodweddion y dafodiaith leol yw newid ambell i ddeusain yn unsain. Ynganiad poen yw pȏn, gwaed yw gwâd, traed – trâd, gafael yw gafel, treulio yw trulo, dynion – dynon etc. Felly mae’n gwbl addas i’r foel ysgrifenedig droi’n fȏl dafodieithol.
Enw swyddogol gwŷr y mapiau ar y bryn yw Tor-y-Foel, (Tor Vole, 1840, Tor-y-Foel, 1833). Mae tor yn gallu golygu toriad ond yma, mae tor yn golygu bola neu chwydd. Twyn y Foel oedd ei arfer gan yr hen drigolion meddai Dewi Cynon, (1905). Ystyr twyn yw bryn. Felly mae tor a twyn yn gyfystyr mwy neu lai, ond beth am ystyr ‘y foel’?
Pan mae’r ansoddair moel ‘bald’ yn dilyn mynydd neu bryn mae’n golygu ‘llwm’, heb llawer o goed na thyfiant.
Pan welwch chi moel fel enw gwrywaidd yn dilyn y fannod, Y Moel, yna llysenw ar ddyn benfoel ydyw.
Dywed yr athro Ifor Williams, os gwelwch moel fel enw benywaidd gyda’r fannod, Y Foel, enw ar fryn neu ben bryn a geir.
Pa foel sydd yn Tor y Foel? Oherwydd y treiglad meddal ar ôl y fannod, enw benywaidd ydyw, a gallwn ddweud yn weddol ffyddiog taw’r ystyr yw ‘pen bryn’. A Tor y Foel? Wel, pen bryn ar ffurf fola, ynte? Petai heb y fannod – Torfoel, yna ‘bryn heb llawer o dyfiant’ fyddai’r ystyr. Ond gan mai Tor y voell, 1635, yw’r ffurf gynharaf sydd gyda ni ar hyn o bryd, rhaid cadw at ‘pen bryn ar ffurf fola’. Os, wrth edrych ar y llun uchod, ddychmygwch chi ddyn boliog yn gorwedd ar ei hyd, dyw’r geirdarddiad olaf ddim ymhell o’i le.
Deric Meidrum John. 11.3.10.