Styciau tyweirch mawn yn sychu dan yr heulwen
CAE DDIFETING
Enw ar gaeau ar dir Cwmdu Isaf, Bwllfa a Thir Mawr yw Cae Ddifeting, Cae ddifeiting a Cae difeting, wedi eu cofnodi yn y drefn honno ar restrau’r degwm ym mhlwyf Aberdâr ym 1844. Mae’r un elfen difeting yn digwydd ar enwau dau gae ar restrau degwm plwyf Penderyn ym 1841 sef Gwaun ddufetting (sic), Cefnmaes a Defetting fach (sic), Nant Melyn Ucha.
Mae Gwynedd O Pierce yn nodi Dwy Erw divitting ym mhlwyf Leckwith ym 1773, ac mae R. J. Thomas yn enwi Kae Dyfytting Bach gyda’r ychwanegiad ‘Little Burnt Turf Field’ ym mhlwyf Merthyr Tudfil ym 1766. (The Place-Names of Dinas Powys Hundred, tud. 63).
Mae’r elfen difeting yn gysylltiedig a’r enw gwrywaidd Cymraeg betin(g), bietin(g) sydd ei hun yn fenthyciad o’r Saesneg beating ‘pared turf’. Mae hwn yn ein hatgoffa o’r hen arfer o godi tyweirch gyda chaib a rhaw, eu gadael i sychu, yna’u llosgi a gwasgaru’r lludw’n wrtaith dros y tir.
Mae difeting a betin(g) yn agos iawn i’w gilydd o rhan ystyr. Mae’r rhagddodiad di- yn cryfhau’r ystyr yn difeting, (fel y mae yn diddanu, dinoethi, etc.) yn hytrach na’r di- negyddol arferol (fel y mae yn disodli, diswyddo, didwyll etc.)
Mae Bedwyr Lewis Jones yn nodi roedd llutu neu lliti beti (lludw bietin) yn fyw ar lafar pobl Cwm Tawe yn nawdegau’r ganrif ddiwethaf. ‘Ystyrid y lludw hwn yn wrtaith ardderchog.’ (Yn Ei Elfen, tud. 33). Mae’n amlwg roedd hen drigolion plwyfi Aberdâr a Phenderyn o’r un farn.