Y PEUTYN
Mae enw lle’r Peutyn yn digwydd mewn dwy o gerddi Hywel Dafi, bardd o gyrion Aberhonddu a flodeuodd rhwng 1440 a 1485. Yn ei gywydd Moliant Hywel ap Morgan ap Dafydd a Sioned ei wraig, mae’n son am “Deuddyn o’r Peutyn a’i pair”, ac ym Marwnad Ieuan ap Morgan ap Dafydd Gam, cenir “Ty noeth yw’r Peutyn weithian”.
Heddiw, digwydd yr enw ar ffermydd y Pytindu, Pytingwyn a’r Pytinglas ger Llanddew, nepell o Aberhonddu. Un ystad oedd y Peutyn yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn hwyrach rhannwyd y tir ac ychwanegwyd y lliwiau du, gwyn a glas i’r enwau er mwyn gwahaniaethu rhwng y ffermydd.
Yn amser Hywel Dafi, roedd y deiliaid yn ddisgynyddion i’r milwr enwog Syr Dafydd Gam, a gafodd ei urddo’n farchog ar faes brwydr Agincourt gan Harri’r Pumed (Harri o Drefynwy) ym 1415. Roedd gan un o’i feibion, Morgan ap Dafydd Gam, diroedd ym Mhenderyn ac Ystradfellte.
Gyda llaw, cafodd Syr Dafydd ap Llywelyn ap Hywel Fychan ei alw’n ‘gam’ achos, yn ôl yr hanes,roedd tro ganddo yn un o’i lygaid. Mae’n debyg hefyd taw efe yw’r Fluellen enwog yn nrama Harri ‘r Pumed gan Shakespeare. Mae ambell i wladgarwr y dyddiau yma yn ei ddirmygu oherwydd ei ‘drafferthion’ gydag Owain Glyndwr, ond rhaid cofio roedd Cymru’r adeg honno yn wahanol iawn i’n Cymru ni heddiw gydag arglwyddiaethau annibynol a milwyr yn glwm ac yn ffyddlon i’w harglwyddi lleol. Roedd arglwyddiaeth Frycheiniog o dan rheolaeth y Bohuniaid gyda chysylltiadau agos iawn a theulu frenhinol Lloegr. Seisnigwyd cyfenwau disgynyddion Syr Dafydd Gam i Games, a chafodd “Edward Games of Peyton, esq.” ei enwi mewn gweithred ym 1553. [Roedd un o’i berthnasau, Richard Games (gwr Mary Games nee Pritchard), yn byw ym Modwigiad, Penderyn yn hanner gyntaf yr ail ganrif ar bymtheg, hyd at ei farwolaeth ym 1647.]
Beth am ystyr y Peutyn? Mae llyfrau hanes yn adrodd i wr o’r enw Sir Richard Poitins gael tir wrth Bernard de Neufmarche ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg. Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg prynodd Llywelyn ap Hywel Fychan, tad Syr Dafydd Gam, y faenor wrth William Poitons neu Peytons. Cymreigiwyd enw tir Poitins i’r Peutun, a dyna oedd enw’r ystad yn amser Hywel Dafi.
Mae’r Peutun, Poitons, Poyton, Peyton, Peytyn a Pytin, yn ffurfiau amrywiol ar yr hen enw Ffrengig Poitevin, Peitevin – gwr o Poitou, yn y Vendée, Ffrainc, sydd i’w gysylltu a’r Normaniaid ym Mrycheiniog gynt. Dyma beth yw tro ar fyd. Enwau Cymraeg yn Seisnigeiddio ac enwau Ffrengig yn Seisnigeiddio ac yn Cymreigeiddio. Pwy heddiw ar ffermydd Pytingwyn, Pytinglas a’r Pytindu gredai’r fath stori?