Mae Galon Uchaf bellach yn enw ar ystâd o dai ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Roedd yn enw gynt ar ddaliad o dir Cwmni Pen-y-Darren, a chyn hynny yn enw ar fferm ar lethrau coediog ardal Dowlais.
Mae sawl ymgais i wneud synnwyr allan o’r elfen gyntaf ‘calon’ wedi ei osod ar glawr, gan gynnwys ‘calon’ = gelyn (‘Upper enemies’ ebe Wilkins am Galon Uchaf yn ei The History of Merthyr Tydfil); ‘calon’ = y galon ( ‘Hychan’s Heart’ neu ‘Ucha’s Heart’ meddai athrawon y dref yn eu The Story of Merthyr Tydfil, ynghyd a’r ffurf ffansïol cae lon uchaf = ‘upper fileld lane’.)
Hwn hefyd yw cynnig yr athrawon yn Merthyr Tydfil, A Valley Community. Mae Gwynedd Pierce, sut bynnag, yn ei Place-Names in Glamorgan yn ymarfer ei ddoniau a’i feistrolaeth ar esbonio ystyron enwau lleoedd Cymru drwy ddangos mai ‘collen’ yn ei ffurf dafodieithol ‘collan’, wedi ei drawsosod i ‘callon’ sydd yma.
Mae ffurfiau Gallon Ucha 1784 a The Collen 1775 ynghyd a disgrifiad Galon Uchaf tir coed 1874 yn ei arwain at gyfeiriad y gollen. (Mae Cae Callon Ddu, rhif 1754, Ty Mawr Cenol & Uchaf, Gelli Deg 1850, yn enghraifft arall ar drawsosodiad/metathesis yn y dafodiaith hon.)
Mae’r ail elfen uchaf, yn awgrymu roedd o leiaf un fferm arall yn yr ardal yn cynnwys yr enw calon/callon/collen, ac mae Tyr Calon Vechan 1727, a The Collen 1775, yn cadarnhau hyn. Roedd enwau eraill yn yr ardal yn dangos olion coedydd y fro cyn i’r chwildro diwydiannol newid y tirwedd – enwau megis Goetre, Cefn-fforest, Coed Meurig, Dan-y-deri, Godre’r coed, Ffawyddog, Coedcae Mawr, Nant-y-Fedw, Pont yr ynn, Pant Ysgallog, Pen Rhiw’r Onnen, Ty’r Ywen, Ty’n y coed, Llwyn Celyn, Pant y gerddinen, Perthi Gleision, Coed y Cymmer a Gelli deg.
Map OS 1” 1832 yn dangos y Galon Uchaf ger y Goitre (fferm y coed).
Byddai’r gollen/gollan felly, yn gwbl gartrefol yn nheulu coedydd bro Merthyr Tudful yn ei ffurf dafodieithol drawsosodol y Gallon Uchaf. Mae’n eithaf posib taw’r Saeson, a lifwyd i mewn i’r ardal gyda’r chwildro diwydiannol, a fu’n gyfrifol am newid ynganiad y gallon i’r galon, neu efallai mai mewnlifiad y Cymry Cymraeg gyda’u tafodieithoedd gwahanol a wnaeth hynny drwy geirdarddiad poblogaidd. Ta pa un yw hynny, naddwyd galon allan o’r gollen ac allan o’r tri enw a nodwyd eisoes, fe oroesodd Galon Uchaf ar y brig!!
***************************************************************************************************************************************************
Ga i ddymuno pob llwyddiant i Sion ap Glyn a’i ffrindiau wrth iddyn nhw fynd ati i sefydlu fforwm enwau lleoedd ym Merthyr. Efallai y dylwn ni yng Nghwm Cynon feddwl am sefydlu cymdeithas o’r fath yma. Os oes diddordeb gennych i helpu sefydlu cymdeithas enwau llefydd yng Nghwm Cynon, a fyddwch gystal a chysylltu a dericj@gmail.com neu ffonio Deric John ar 877907.