Llanwynno
Dyma eglwys Gwynno – Llanwynno, eglwys sydd wedi ei chysegru i Sant Gwynno a fu fyw, yn ôl pob sôn, tua’r chweched ganrif Oed Crist. Mae’n debyg cafodd ei hyfforddi gan Illtud ac roedd Gwynno yn un o’r tri sant yn Llantrisant (gydag Illtud a Thyfodwg) ac yn un o’r pump sant yn Llanpumsaint (gyda Gwyn, Gwynoro, Celynin a Cheitho). Mae Gwynno i’w weld hefyd yn yr enw Maenor Wynno, tu allan i Ferthyr Tudful, sydd yn fwy adnabyddus i ni heddiw fel enw plwyf Y Faenor neu’r Vaynor yn orgraff yr iaith fain.
Trist felly yw gweld yr hen enw hwn yn dal i gael ei gam sillafu heddiw ar drothwy ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain. Yn rhy aml yr ydym yn gweld Llanwonno ar fapiau’r ordnans (yn ogystal a Darwonno), arwyddbyst ffyrdd, enwau ystadau tai ac yn y wasg leol. Dyma enghreifftiau:
(a ble mae Aberpennar a Glyn rhedynog?)
(arwydd cyngor Rhondda Cynon Taf)
Dyma Llanwonno Forest y Cynon Valley Leader 15.9.2010.
a dyma Fforest Wynno a Lanwynno y Comisiwn Coedwigaeth.
Os fedr y Comisiwn Coedwigaeth sillafu’r enwau uchod yn ramadegol gywir, pam na all pobol yr arwyddion ffyrdd a’r mapiau ordnans, swyddogion Cyngor RCT a gohebyddion y Cynon Valley Leader gwneud yn union yr un peth?
Mae’n hanfodol yn ein Cymru ddwyieithog fodern, bod pobol cyfrifol sydd a swyddi pwysig a dylanwadol, yn medru sillafu ein henwau Cymraeg mewn orgraff ramadegol gywir Gymraeg!
Deric Meidrum John. 13. 7.10