Enw ar bentref y pyllau glo ym mhlwyf Llan-giwg, ar gyrion Dyffryn Aman yw Gwauncaegurwen. Mae trigolion yr ardal yn arfer ‘GCG’ neu’r ‘Waun’ yn fyr. Mae sawl person enwog yn gysylltiedig a’r pen tref gan gynnwys Gareth Edwards, Huw Llewelyn Davies a’r Archesgob Dr. Barry Morgan.
Mae geirdarddiad yr enw’n ddiddorol. Y gred boblogaidd yw taw gwaun, cae a’r enw personol Curwen sydd i’r enw, ond nid yw’r ffurfiau cynnar Gwaynkygerwen (1681) a Gwayn Kegerwen (1574) yn cefnogi hynny. Maent yn dangos mai dwy elfen sydd i’r enw, sef gwaun (rhosdir) a’r planhigyn cegyr wen sydd a’r enwau Saesneg ‘white hemlock’, ‘great chervil’ a ‘sweet cicely’.
Mae’r planhigyn gwenwynig hwn o dylwyth y persli. Slawer dydd, roedd yn cael ei ddefnyddio am feddyginiaeth ar gyfer gwynegon ac epilepsi. Tybed a oedd gwrach Pwll-y-wrach gyfagos yn ei arfer?
Yn anffodus mi anghofiwyd am arwyddocad ac ystyr cegyr wen a daeth cae gurwen yn eirdarddiad poblogaidd i’r enw.