Ffwrwm Ishta

FFWRWM ISHTA

Wrth fynd ar y ffordd fawr rhwng Caerffili a Machen fe welwch dafarn y Ffwrwm Ishta. Mae’n dda gweld enwau Cymraeg ar tafarnau yng Nghymru, a gwell fyth yw gweld y Wenhwyseg, sef y dafodiaith leol. Mae’r dafarn ar werth ar hyn o bryd, a’r gobaith yw bydd y perchnogion newydd yn cadw at yr hen enw sydd wedi goroesi fel enw’r dafarn oddiar canol y bedwerydd ganrif ar ddeg.

Byddai Ffwrwm Ishta yn enw derbyniol a chroesawgar ar dafarn pebai ffwrwm yn golygu mainc, ac ishta yn ffurf dafodieithol ar eistedd, gyda’r oll yn golygu eisteddle. Ond mae map chwe modfedd yr Ordnans 1885 yn dangos Fwrwm Isaf Inn ac mae map 1833 un modfedd yn dangos enwau ffermydd Ffrom Uchaf a Ffrom Isaf (am Ffwrwm Uchaf ac Isaf).

Mae’n amlwg felly taw enw ar ddwy ffarm oedd y Fforwm Uchaf a’r Fforwm Isaf, gyda’r olaf yn agor ei drysau i deithwyr wrth werthi ei chwrw iddyn nhw a throi’n dafarn tua’r 1840au. Aeth y Fforwm Isha yn Fforwm Ishta drwy geirdarddiad poblogaidd. Yn ogystal, roedd Ffwrwm yn enw ar ardal a phentref ger Machen yng nhyfrifiadau’r 19ydd ganrif, ac yn enw ar adfeilion hen dŷ ar y mynydd uwchben Machen.

Nid yw’n debyg felly taw mainc yw ystyr fforwm yn yr enwau hyn. Mae’r Athro Emeritws Gynedd O. Pierce yn ei ethygl gynhwysfawr yn llyfryn Cymdeithas Hanes Morgannwg 2009, Morgannwg LIII, tnau.5-12, yn dadlau’n glir ac effeithiol mai ‘ffwrneis’ neu ‘forthwylfa’ yw ystyr ffwrwm, wrth i ffwrn droi’n ffwrwn (cf. dwfn > dwfwn, cwlm > cwlwm, cwrf > cwrw(f) etc.), ac yna’n ffwrwm, (cf. bwtwm < button, saffrwm < saffron, patrwm < pattern, plâm < plane etc.). Roedd morthwylfeydd yn gweithio yn yr ardal oddiar yr unfed ganrif ar bymtheg hyd at ddiwedd y bedwerydd ganrif ar bymtheg. Mae’n debyg i’r ffermydd a’r enwau llefydd gael yr elfen ffwrwm oherwydd agosrwydd eu lleoliadau at y ffwrwm (ffwrn) berthnasol.

Er mor gyffyrddus yw enw tafarn y Fforwm Ishta rhaid cofio iddi gael ei henw oddiwrth ffarm Y Fforwm Isha a’i pherthynas a diwidiant haearn cynnar y fro.