TY RWSH
Enw ar efail gynt ym mhentref Pontardulais yw Tŷ Rwsh. Mae sawl ymgais wedi cael ei wneud i esbonio’r enw gan gynnwys tŷ a’r ferf Saesneg ‘rush’ wedi ei Chymreigio i rwsh i olygu ‘tŷ wedi ei adeiladu ar frys’ a hefyd tŷ a’r enw Saesneg ‘rush/rushes’ i olygu ‘tŷ a tho cawn neu brwyn’.
Mae’r hen ffurfiau yn dangos gwir geirdarddiad yr enw. Roedd Ty Rwsh yn rhan o stad Llwyn Cwrt Hywel ac mae Lloyn Court Howell Vach alias Tuy Rush ar ddogfen ym 1764.
Fferm Llwyn-cwrt-Hywel ym 1883.
Ond, ar lafar ac mewn ambell ddogfen arall , roedd Llwyn Cwrt Hywel yn cael ei alw’n Llwyn y gwr tawel fel y gwelir af fap y Degwm isod, 1844.
Rhan o Fap y Degwm, 1844.
Felly hefyd, fe alwyd Llwyn Cwrt Hywel Fach yn Llwyn y gwr tawel fach. Nawr mae Llwyn y gwr tawel yn lle distaw, ond mae llwyn y gwr tawel fach yn ddistawach byth ac fe benderfynodd y digrifweision lleol rhoi’r alias Tŷ 'r Hwsh iddo (Ty’r Hwsh, 1828, 1834 Cofrestri’r Plwyf). Mi allwn gyfieithu Tŷ ‘r Hwsh i’r Saesneg House of Hush!
Gyda dyfodiad efail teulu’r Matthews yno, rhywbryd tua 1840, collwyd distawrwydd y lle a hefyd hiwmor y digrifwyr.