Enw ar blwyf a phentref ym mhen uchaf Cwm Cynon yw Penderyn. Mae’r ffurfiau cynnar Pennyderyn 1291, Penderin 1372, yn cynnwys y ddwy elfen pen a deryn (ffurf dafodieithol aderyn) gyda’r fannod ac hebddi.
Rhaid gofyn y cwestiwn paham yr enwyd plwyf a phentref gyda’r fath enw? Mae un arbenigwr mewn enwau llefydd wedi esbonio’r geirdarddiad gan ddweud bod ffurf un o’r bryniau gyfagos yn edrych yn debyg iawn i ben aderyn. Dw i fy hun ddim yn hollol fodlon gyda’r esboniad yna, ac rwyf yn tueddu i bwyso tuag at y teulu hynny o enwau lleoedd totemyddol sydd gennym ni ledled y wlad yng Nghymru, yng ngweddill Prydain ac Iwerddon.
Sgrifennodd y diweddar Bedwyr Lewis Jones erthygl yn y Western Mail rhai blynyddoedd yn ôl i esbonio geirdarddiad Pentyrch,enw tebyg i Benderyn . Dyma ran ohono:
“Ganrifoedd lawer yn ôl byddai pobol cantref neu ardal yn ymgynnull mewn un man arbennig ar gyfer cyfarfodydd yn yr awyr agored. Yn y mannau cyfarfod hynny roedd hi'n arfer gosod pen anifail ar bolyn – fel polyn totem. Mae’n debygol iawn mai pen twrch ar bolyn yn nodi man cyfarfod cynnar oedd ym mhob un o’r pedwar Pentyrch neu Ben-tyrch yng Nghymru.”
Mae Pentyrch yn cynnwys y ddwy elfen pen a tyrch, ffurf enidol twrch (mochyn gwyllt). Mae Kanturk/Ceann Toirc yn Iwerddon yn cynnwys elfennau tebyg.
Mi soniais eisoes am deulu enwau lleoedd totemyddol. Dyma aelodau cangen Gymraeg y teulu hwnnw – Pen-hydd (Aberafan), Penychen (Morgannwg a Chaernarfon), Pen yr Afr (Penfro) , Pen yr Hwrdd (Penfro), Pen March/Marc? (Morgannwg), Penporchell, Llanefydd, Sir Ddinbych, Penrhydd, Cemais, Sir Benfro (?pen yr hydd), Penteri / Pen-tyrch (Tyndyrn, Gwent), Pentyrch (Cenarth, Sir Gaerfyrddin), Pentyrch (Llanfair Careinion); Pentyrch (Llanystumdwy, Gwynedd), Pen-y-gaseg (Trefaldwyn) Pentyrch (Morgannwg) ac, wrth gwrs, Penderyn.
Yng Nghernyw ceir Pen-carrow (carw), Pen-kivel (ceffyl), Pen-vrane (y fran) etc.
Yn Lloegr ceir Broxhead (mochyn daear) o’r Hen Saesneg brocc, Eversheads (twrch) Hen Saesneg eofor, Farcet (tarw) Hen Saesneg fearr , Shepshed (dafad), Swineshead (mochyn) a Gateshead (gafr).
Dechreuodd Penderyn ei hynt yn enw ar fan cyfarfod llwythol, yna aeth yn enw ar blwyf ac wedi hynny, yn enw ar y pentref a sefydlwyd o gwmpas eglwys y plwyf.
Does dim unrhyw dystiolaeth i’r enwog Dic Penderyn fyw ym Mhenderyn. Richard Lewis oedd ei enw bedydd, ac roedd yn enedigol o ardal Aberafan. Mae’n debyg y cafodd y llysenw Dic Penderyn am iddo fyw yn adeg ei blentyndod gyda ‘i rieni ym mwthyn Penderyn, plwyf y Pîl (Y Bywgraffiadur arlein).
Os edrychwch yn fanwl ar lun eglwys y plwyf, mi welwch bod aderyn yn dal i gadw gwyliadwriaeth dros dir Penderyn.