Caerhowell 1991 Map Ordnans Pathfinder; 1974 MO;
Caer Howell 1841 Cyfrifiad; 1830 Ewyllys Morgan Jenkins LlGC;
Cahowell 1829 Ewyllys William Jenkins LlGC
Cae Hywel 1805 Ewyllys Jenkin Morgan LlGC
Tyre Cae Howell 1752 Ewyllys of Morgan John LlGC
Kaye Howell 1719 Ewyllys John Williams LlGC
Kay Howel 1526 Tredegar (8)
Enw ar hen ffermdy ym mhlwyf Penderyn oddiar yr heol fawr gyferbyn a’r Heol Las a Phant Garw yw Caerhowell. Mae’r hen dŷ ffarm bellach yn dŷ preifat ac mae’r ysgubor wedi ei drawsnewid ac yn dŷ annedd.
Mae ffurfiau diweddar ar yr enw – Caerhowell neu Caer Howell, yn awgrymu amddiffynfa, ac mae R. F. Peter Powell yn ei lyfr The Place-names of Devynock Hundred yn cynnig taw tomen fawr gyferbyn a’r buarth bu’n gyfrifol am hyn. Nid yw’r elfen caer yn digwydd tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gyda llaw mae’r domen bridd wedi ei gwastadu a’i gwasgaru ers amser.
Mae’r ffurfiau cynnar yn dangos Cae Hywel, sef cae yn perthyn i rhyw wr o’r enw Hywel. Ni wyddom pwy oedd yr Hywel eponymaidd hwn ond mae’n sicr iddo gael ei eni cyn 1526. Aeth enw ei gae yn enw ar dir y fferm. Mae Cahowell 1829 yn cynnwys y ffurf dafodieithol ca am cae.
Y ffurf yn ein horgraff ni heddiw yw Cae Hywel. Mae hon yn cadarnhau taw cae yw’r elfen gyntaf, yn ogystal a defnyddio’r ffurf Gymraeg ar yr enw personol Hywel.
Mae enwau personol yn digwydd yn aml ar enwau caeau, creigiau, gweunydd a chymoedd plwyf Penderyn. Dyma rhai sydd ar Restr Degwm 1841: Cae Nath (Nathaniel) Howell (Trebanog Ucha), Wern Dafydd (Esgairgadlan), Erw Llewelyn (Penpound), Cae John (Tyle’r Morgrug), Cae Llewelyn Thomas (Penycae), Cae Shany (Nant Moel Ucha), Cae Llewelyn (Tir Pant yr Heol), Waun Nest Llwyd (Clynperfedd), Cae Shams (Blaen Cadlan), Cwm Nant Iorath (Ffrwd Isha), Graig Daniel (Sychpant Isha), Cae Ifan (Sychpant Ucha), ayyb. Da yw darllen a dwyn i gof enwau rhai o hen drigolion y plwyf.
DMJ