Os fuoch chi yn eisteddfod genedlaethol Glyn Ebwy eleni, efallai mi sylwoch ar yr enw RASAU neu RASSAU ar arwyddion ffordd Blaenau’r Cymoedd ar gyrion dref Glynebwy. Ar yr olwg gyntaf mae blas Ffrengig i’r enw ac mae sawl person wedi ynganu yr enw megis Rasso o’r herwydd, ond RASAU, yn odli gyda’r geiriau Cymraeg dau, plasau, yw’r ynganiad cywir yn y Gymraeg safonol, a RASA yn y dafodiaith leol.
Enw Cymraeg wedi ei fenthyca o’r Saesneg race yw ras, sy’n golygu sianel o ddŵr, cf. Saesneg mill race. RASAU yw ffurf lluosog RAS.
Gweler un o’r rasau - ‘Rassa’ gyda ‘Brook’ wedi ei ychwanegu ato ar fap yr ordnans 1884.
Rhaid cofio roedd yr ardal hon yn un ddiwydiannol brysur yn y dair ganrif ddiwethaf, ac mae’r enw yn perthyn i weithgareddau’r diwydiannau haearn a glo. Roedd Mynydd Llangynidr yn le da i gloddio am fwyn haearn, ac un o’r dulliau cynnar oedd adeiladu cronfeydd dŵr, eu tyllu, a gadael i rym a nerth y llif ddŵr olchi’r pridd a’r rwbel i ffwrdd o’r mwyn haearn. Roedd y dŵr yn sgwrio wyneb y tir, a’r enw a roddwyd i’r mannau a sgwriwyd oedd y SGWRFA neu’r SCWRFA, cf. Scwrfa, Dukestown ger Tredegar a Nant Yscwrfa, 1884, Aberpergwm. Yna roedd y dwr yn cael ei gasglu mewn sianeli neu RASAU er mwyn ei reoli (Rhasau’r mwyn, 1778; Rassa 1840).
Yn Nyffryn Llynfi mae pentref SHWT yn ein hatgoffa am yr un weithgaredd ddiwydiannol yn yr ardal honno. Orgraff Gymreig i’r gair Saesneg shoot sydd yma, megis shwt o ddŵr yn pistyllu allan o gronfa ddŵr afon Llynfi er mwyn datguddio glo.
Yn ôl i ardal Mynydd Llangynidr. Mae Beaufort (Beaufort Ironworks 1779) a’r Cendl (Cendl 1849) yn ddau enw am yr un pentref.
Enw Dug Beaufort, y tirfeddiannwr o Badminton, sydd ar y naill, (mae Dukestown gyfagos yn cyfeirio ato hefyd) a’r cyfenw Kendall, enw’r teulu a brynodd prydles ar y tir ac a fu’n gyfrifol am adeiladu’r gwaith haearn hwnnw, sydd ar y llall. Cafodd y cyfenw Kendall orgraff Gymreig, megis Cendl, a hwnnw bu enw ‘Cymraeg’ pentref Beaufort. Mae Badminton, Swydd Gaerloyw, cartref teuluol y Dugiaid Beaufort, (wedi iddyn nhw symud yno o gastell Rhaglan ar ôl difrod y rhyfel cartref) yn enwog bellach am dreialon marchogaeth ceffylau.
Mae sȏn am geffylau yn ein harwain yn ôl at Lynebwy. Glyn Ebwy yw enw dyffryn yr afon Ebwy, gynt Ebwydd (Glynebboth 1314 ). Mae ebwydd yn cynnwys eb- ‘ceffyl’ (cf. ebol ) a gŵydd ‘gwyllt’ sy’n rhoi ebŵydd - ‘ceffyl gwyllt’ ac yn disgrifio ffyrnigrwydd llif yr afon. Ym 1789 dechreuwyd waith haearn ar lan yr afon (Ebbw Vale Furnace c1790), mewn lle o’r enw Pen-y-cae, ond pan dyfodd tref o gwmpas y gwaith, rhoddwyd i honno yr un enw Seisnigaidd - Ebbw Vale. Enw’r dref i ni’r Cymry yw Glynebwy. Enw’r dyffryn yw Glyn Ebwy.
Deric Meidrum John. 23.9.10.