Dyma’r ddau enw bellach ar y dref sydd ar lannau Afon Cynon rhwng Aberdâr ac Abercynon.
[Sylwch ar esgeulustod y gwyr arwyddion wrth sillafu Abe(r)pennar]
Doedd gan y dref gynnar ond yr un enw sef Mountain Ash, wedi ei henwi am iddi gael ei chodi o gwmpas tafarn y Mountain Ash. Cafodd y dafarn yr enw tua 1809, oherwydd ei lleoliad ger gerdinen. Gan mai Sais oedd y tirfeddiannwr (John Bruce Pryce) defnyddiwyd yr enw Saesneg. Mae Dafydd Watkin Jones yn Hanes Morgannwg (1874) yn dal at Mountain Ash ac mae Glanffrwd yn ei lyfryn Llanwynno (1878-88) yn cwyno am nad oedd enw Gymraeg i’r dref.
Bu rhaid aros hyd at 1905 cyn i’r dref fabwysiadu enw Cymraeg. Pan ddaeth yr eisteddfod genedlaethol yno, mi ddewiswyd Aberpennar yn enw teilwng Gymraeg ar y dref.
Roedd Aberpennar yn hen enw lleol ar dir a phlasty’r Dyffryn – Aber Pennar alias Tire y dyffryn (1632-3) ac yn gartref i deulu’r Bruceiaid oddi ar 1750, gan gynnwys Henry Austin Bruce, Arglwydd Aberdâr.
Adeiladwyd blasty newydd yno tua 1870 a thrawsnewidiwyd y cartref teuluol pan agorwyd ysgol ynddi ym 1926.
Cafodd yr adeilad ei dymchwel ym 1986. Heddiw, saif Ysgol Gyfun Aberpennar o flaen safle’r hen blasty.
Mae Aberpennar yn cynnwys yr elfennau aber ac enw nant Pennar. Cafodd y nant ei henwi ar ôl fynydd ei tharddiad cym. Cefnpennar. Mae pen ac ardd < garth, (aber pennarthe (1570), yn golygu bryn uchel. Mae Nant Pennar yn ymuno ac Afon Cynon yn Aberpennar.
Er i dref Mountain Ash dyfu yr ochr draw i’r afon o gwmpas y dafarn, mae hen enw plasty Aberpennar wedi neidio cam i’r de ac yn goroesi, yn enw Cymraeg i’r dref, diolch i ‘Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru’ 1905.
Am fanylion pellach gweler ‘Place-names in Glamorgan’, Gwynedd O. Pierce.
Deric Meidrum John. 16. 8 10