COEDCAE MELARIAN
Mae Coedcae Melarian yn enw ar darn o dir rhwng Craig Fforchneol a Fferm Ton-llwyd ger Aberaman.
Coedcae Melarian ar fap yr Ordnans 1884.
Roedd y tir yn rhan o ystâd Mathewiaid Aberaman am ganrifoedd cyn y chwildro diwydiannol. Mae wedi ei restri’n rhif 370 ar dudalenau Degwm 1844 rhwng Aberaman Ychaf (sic.) ac Aberaman Isaf, gyda’r oll yn eiddo i’r tirfeddianwr a’r diwydiannwr Crawshay Bailey.
Ym 1915 dechreuodd Y Powell Dyffryn Steam Coal Company osod sylfeini ar gyfer adeiladu ysbyty ar rhan o dir Coedcae Melarian, ond dewiswyd T ŷ Abernant ar gyfer yr ysbyty rhyw ddwy flynedd yn ddiweddarach. Heddiw, mae Coedcae Melarian yn dir coediog gyda llwybrau ar gyfer cerddwyr.
Mae dwy elfen i’r enw. Y gyntaf yw coedcae (coetgae) sef darn o dir fynyddig wedi ei gau gan glawdd, perth neu wal er mwyn cadw anifeiliad megis defaid ac wŷn.
Mae’r ail, melarian, yn fwy prin. Benthyciad yw o’r gair Saesneg valerian, enw ar llysieuyn sydd a’r enw Cymraeg yr efail arian(hefyd Cynffon y Cabwllt, Llysiau Cadwgan a Gwell na’r Aur). Mae’r enw efail arian wedi ei adeiladu’n ffansiol ar sain y valerian Saesneg.
Blynyddoedd yn ôl byddai Cynffon y Cabwllt, Llysiau Cadwgan a Gwell na’r Aur “yn dda hynod ar gyfer bob math o anhwylderau.....” (Y Llysieu-lyfr Teuluaidd, 1858). Rhag ofn i chi rhoi cynnig ar hwn cofiwch bod tabledi a meddygyniaeth y ganrif hon yn llawer mwy effeithiol a dibynadwy!
Mae’n debyg i Goedcae Falerian newid i Goedcae Melarian drwy geirdarddiad poblogaidd. Byddai’n rhwydd i’r ‘f’ newid i ‘m’ (ar sail treiglad dybiedig), ac i’r ‘a’ ac ‘e’ newid lle i wneud mêl arian, enw Cymraeg crand ar dir lle dyfai’r llysiau hanesyddol llesol.