AFON HEPSTE
Afon Hepste 1905 OS6”; Duffryn Hepste 1503 Penpont;
Enw ar afon sy’n cael ei llenwi gan Nant Llwch, Afon-y-waen a Nant-y-Cwrier ar Waen Tincer a sydd yn rhan o’r ffin rhwng plwyfi Penderyn ac Ystradfellte. Mae Afon Hepste’n llifo heibio Blaen Hepste, Gweunydd Hepste, Hepste Fawr, Tai Hirion, Pwll Dylluan, Cae Hywel a thros Sgwd yr Eira gan arllwys i Afon Mellte ger Cilhepste fach a Chilhepste cerrig.
Mae hepste yn cynnwys yr elfen hesb ynghyd a teu/te (ffurfiau eraill ar tam, taf ). Mae hesb yn ffurf fenywaidd ar hysb sydd wedi troi’n heps drwy fetathesis a chalediad y gytsain b i p, Golyga hesb ‘sych, wedi sychu’ gan ddynodi afon neu nant sydd a’i gwely’n sych mewn mannau; gweler y llun isod.
Gwely sych Afon Hepste ger Pont Hepste mis Tachwedd 2016
Mae’n debyg bod calchfaen gwely’r afon yn fandyllog ac yn gwagau’r afon megis gogor, rhidyll neu shifa main. Mae nentydd ac afonydd Sychnant, Beusych, Hafesb ac wrth gwrs Hepste yn perthyn i’r un teulu sydd a’i gwelyau’n sychu mewn mannau ar adegau.
Mae’r ail elfen teu/te yn bresennol yn enwau’r ddwy chwaer afon Hepste a Mellte. Mae’r bôn Tam, Tav yn gyffredin drwy Brydain Fawr a’r cyfandir ee. Tame, Teme. Thame, Taf, Tawe, Tamaris etc. Mae ansicrwydd ynglŷn a’r ystyr, ond y farn boblogaidd yw ‘tywyll’. Felly byddai Afon Hepste yn golygu afon sych a thywyll.
DMJ