Tremathew

TREMATHEW

Mae ‘cwmpo mas’ wedi bod dros y blynyddau diwethaf rhwng trigolion pentref ger Penrhiwceibr ynglŷn a’r enw. Myn rhai taw Tyntetown yw enw’r pentre ac eraill mai Mathewston yw’r enw priodol. Dyw’r anghydfod hwn ddim yn beth diweddar. Mae’r Aberdare Leader 23 Rhagfyr 1916 yn sôn am yr un anghytundeb. Mae erthygl Lucifer yn atgofio’r darllenwyr y cafodd Tyntetown ei enwi ar ôl y gwr bonheddig “Col. Kemeys Tynte” ond roedd Matthewston wedi ei enwi ar ôl “the late Mr Matthews cashier at Penrhiwcei ber” dyn bach cyffredin a oedd ganddo ddiddordeb “in some building clubs at Tyntetown.”

Ni soniodd Lucifer am enw Cymry Cymraeg y pentref. Mewn erthygl yn ‘Tarian y Gwethiwr’ ddeng mlynedd yn gynharach (6 Rhagfyr 1906) gwelwyd “Tremathew, Penrhiwceibr” yn deitl ar golofn yn sôn am “gapel newydd y Bedyddwyr Seisnig yn y lle”. Ymhlith enwau’r bobl a osodwyd cerrig cynta’r capel oedd “Mr. J Ladd, Tremathew”.

Onid yw hi’n bryd i ni, Cymry Cymraeg y cwm, ail-ddechrau arfer yr enw Tremathew er côf am y “cashier” bach, a hen gapelwyr Cymraeg Cwm Cynon?

O.N. Seren Cymru, 22 Tachwedd 1895

Mewn adroddiad yn cyfeirio at ddarlith gan Mr Lloyd George AS yn Jerusalem, Penrhiwceibr, dywedir:

“Cadeiriwyd gan W. N. Mathews, Cashier, Penrhiwceibr Colliery, yr hwn a gyfranodd bum gini at y treuliadau. Mae y boneddwr ieuanc yma’n wastad yn garedig i achosion da.”