Mae BODWIGIAD yn enw ar ystad ym Mhenderyn a thafarndy gynt yn Hirwaun.
Bu’r ystad yn eiddo i deuluoedd y Gwyniaid (enwir John Gwin mewn ddogfen c1617-25) ac yna’r Gamesiaid (o hiliogaeth Dafydd Gam), cyn iddo fynd yn rhan o feddiannau Manseliad Llansawel (Briton Ferry Estate), drwy briodas Elizabeth, merch Edward Games a Thomas, mab Bussy Mansel, rhywbryd tua chanol y 17eg ganrif. Prynwyd y Briton Ferry Estate gan yr Arglwydd Vernon tua ddiwedd y 18fed ganrif, ac ar ôl ei farwolaeth ym 1813 aeth ei ystad i’r Arglwydd Jersey. Ym 1815 prynodd y Parch. Reynallt Davies ystad Bodwigiad. Roedd y Morganiaid yn y fan yng nghanol y 19eg ganrif ac erbyn diwedd y ganrif honno, roedd y Capten E. M. Whitting yn dal y tir.
Plas Bodwigiad gan Richard Evans drwy ganiatâd Mrs. Nansi Selwood.*
Agorwyd y Bodwigiad Arms, (y Bod yn boblogaidd) yn Station Street, Hirwaun rhywbryd rhwng 1851 a 1861. Mae cyfrifiad 1861 yn dangos Morgan Morgans, 58 mlwydd oed yn dafarnwr yno. Ym 1851 roedd e’n cadw’r Hirwaun Castle ac ym 1841 roedd e’n löwr yn y Rugos. Nid oes unrhyw sicrwydd roedd ei deulu yn perthyn i Forganiaid Bodwigiad, ac mae’n debyg taw cyd-ddigwyddiad yw enwau Morganiaid Plas Bodwigiad a Morganiaid y Bodwigiad Arms.
Bu gymdeithas yr Oddfellows yn cwrdd yn y dafarn yn gyson ar ôl iddi hi agor ac yn gymharol ddiweddar, bu dysgwyr Cymraeg yn manteisio ar gyfleusterau’r gwesty. Yn anffodus mi losgwyd y Bodwigiad Arms yn ulw rhyw dair neu bedair blynedd yn ôl a’r gwir amdani yw, bellach nid yw’r Bod yn bod.
Mae BODWIGIAD yn un o’r enwau lleoedd pryn yn ne Cymru sydd yn cynnwys yr elfen BOD, megis preswyl-fod. Gweler ef yn Bodringallt, Rhondda, yn Bedwellte (bod & mellte) a Bedlinog (bod & llwynog). Mae’n gyfystyr a’r hendref, prif gartref y teulu. Yn yr haf byddent yn mynychu’r Hafod neu’r Hafod-ty (hafoty neu fotty).
Mae’r ail elfen wigiad yn anodd ei esbonio. Mae R.F.Peter Powell yn meddwl taw’r enw gwig, ‘coed, fforest, llwyn’ sydd yno gyda’r cwbl yn rhoi ‘preswylfa yn y goedwig’. Mae Dewi Cynon (Hanes Plwyf Penderyn) o’r un farn.
Mae Tomos Roberts yn cynnig ewigiaid benywaidd ‘ceirw’, ac mae sawl siampl mewn enw lle, gyda bod yn rhagflaenu enwau anifeiliaid megis Bodychen, Bodwylan, Bodlew etc. Mae’r terfyniad lluosog iaid yn gysylltiedig ac anifeiliaid, bleiddiaid, creaduriaid, ewigiaid etc. Byddai Bod & ewigiaid felly yn disgrifio preswyl fan neu man hela ewigiaid.
Ar y llaw arall, mae’n bosib taw’r enw personol Gwigiad sydd yma. Mae siamplau gydag enwau personol yn dilyn bod yn Bodangharad, Bodgadfedd, Bodgadfan, Bodidris, Bodiddan, Bodwion etc. Am yr enw Gwigiad gweler Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg.
Yr unig beth sicr ynglŷn ag ail elfen enw Bodwigiad yw ansicrwydd y geirdarddiad.
Rhaid dod o hyd i enghreifftiau cynharach ac allweddol er mwyn agor ychydig o gil y drws a thaflu goleuni ar ddirgelwch yr hen enw.
Deric Meidrum John. 15.6.10
*Hoffwn ddiolch i Mrs. Nansi Selwood am ei charedigrwydd a’i pharodrwydd i sgwrsio am deuluoedd y Gwiniaid a’r Gamesiaid.