Y Fanhalog

Y FANHALOG

Enw ar fferm ym mhlwyf Llanwynno yw’r Fanhalog. Yn anffodus, mae Mapiau Ordnans a dogfennau eraill o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen yn dangos Fanhaulog, Fan-heulog farm etc. sydd yn awgrymu mai man a heulog yw’r elfennau. Mae hyn yn gamarweiniol ac anghywir. Ceir yr un gamesboniad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda’r ffurf Y Fynachlog am y Fanhalog. Mae’r ffurfiau cynnar yn cynnwys Vanhadlogge 1633, Vanhalog 1783-1826, Vonallog 1804 etc. ac mae Glanffrwd, chwarae teg iddo, yn ei ysgrif ar Llanwynno (1878-88) GPC 1949, yn defnyddio’r ffurf cywir, Y Fanhalog.

Ffurf amrywiol ar Y fanhadlog yw’r fanhalog – sef enw’r planhigyn banadl (Saes.‘broom’), gyda’r terfyniad torfol –og sydd yn dangos man lle mae llawer ohonynt yn tyfu. Ceir yr union beth gydag eithinog, grugog, rhedynog, efwrog etc.

Mae map Degwm plwyf Llanwynno 1842 (wedi ei lanhau isod) yn dangos lleoliad Y Fanhalog (918) ynghyd a Chapel (908) (Capel y Fanhalog) a fferm Berth (gwall am Buarth) y Capel (965).

Cafodd Capel y Fanhalog ei hadeiladu ym 1786 ar dir fferm Y Fanhalog. Mae prydles y flwyddyn honno yn datgan “to build a Methodist meeting house for the Worship of God” ar dir y Fenhallog Felan. Mae’r elfen felan yn addas iawn ar gyfer tir banhadlog.

Mae’n debyg bod Buarth y Capel yn cyfeirio at Gapel y Fanhalog. Mae’r hen gapel bellach wedi ei thrawsnewid i dŷ a phreswylfa preifat. Mae fferm y Fanhalog yn cael ei ffermio’r dyddiau yma gan deulu Mr a Mrs Edwards.

Am drafodaeth ehangach ac ysgolheigaidd gweler Place-Names in Glamorgan, Gwynedd O. Pierce, tudnau. 72-74, ac erthygl arall ar Y Fanhalog gan yr un awdur Ar Draws Gwlad 2 tud. 37.

Enw cae rhif 929 yw Y Fanhalog ac mae’n debyg taw hwnnw sy’n dangos arwyddocad yr enw a roddwyd ar dir y fferm.

Cae fanhalog yn cynnwys nifer o blanhigion banadl.

Cae fanhalog yn cynnwys nifer o blanhigion banadl.