Dinbych y pysgod

DINBYCH-Y-PYSGOD

Ceir ffurf gyntaf Dinbych y pysgod ym 1566. Dinbych oedd yr enw cynnar (Dinbych c1275) ond fe ychwanegwyd y-pysgod (roedd porthladd pwysig yno ar gyfer pysgota yn amser y Tuduriaid) er mwyn gwahaniaethu rhyngddi hi a’r Dinbych arall yng ngogledd Cymru.

Dwy elfen sydd i’r ddau enw – sef din a bych. Enw arall am amddiffynfa yw din ac mae bych yn hen ffurf ar yr ansoddair bach. Roedd lleoliad hen ddin bach (y pysgod) ar safle’r castell Normanaidd a’i dilynodd. (Sylwch ar fryncyn gwelltlas y llun uchod.)

Denbigh yw ffurf y Saeson ar Ddinbych y gogledd ond caledwyd ‘d’ Dinbych (-y-pysgod) a’i droi’n Tenby (1482). Mae ambell i Sais wedi cydio ar y ffurf Tenby a cheisio ei gysylltu ac enwauFeiciniaidd arfordir sir Benfro, ond camsyniad llwyr yw hynny.

Mae Edmyg Dinbych yn enw ar ddarn o farddoniaeth a sgrifennwyd tua’r nawfed ganrif sydd yn canu clod y lle. Dyma dair linell ohonni:

‘Addfwyn gaer sydd yn yr eglan

Addfwyn y rhoddir i bawb ei ran

Adwen yn Ninbych gorwen gwylan’

Heddiw efallai nid yw’r gwylanod cyn wyned ac yr oeddent, ond mae miloedd ar filoedd o drigolion a thwristiaid yn dal i edmygi a chlodfori un o drefi mwyaf prydferth arfordir de Cymru.