Pendyrys a Tylorstown

Mae’r enw Pendyrys yn adnabyddus yn fyd eang fel enw côr meibion o Gwm Rhondda. Ond os edrychwch ar fap o’r Rhondda, welwch chi ddim pentref o’r enw Pendyrys naill ai yn Rhondda Fach na Rhondda Fawr.

Mae’r côr wedi ei leoli ym mhentref Tylorstown ac mae Tylorstown wedi ei enwi ar ôl Alfred Tylor, perchennog pwll glo, a ddaeth o Newgate, Llundain. Prynodd Tylor hawliau cloddio Fferm Pendyrys ym 1872 ac yna suddodd bwll glo’r Pendyrys Colliery yno.

Cafodd y pentref yr enw Tylorstown ar ôl perchennog y pwll glo, ond dewisodd y côr yr enw Pendyrys ar ôl enw’r pwll glo ei hun, lle roedd mwyafrif o’r aelodau cynnar yn gweithio.

Mae dwy elfen i’r enw Pendyrys ‘pen’ a’r ansoddair ‘dyrys’ sydd yn golygu‘bryn y tir gwyllt, dreiniog’. Ond does dim byd gwyllt na dreiniog ynglŷn a’r côr meibion. Roeddent bob amser yn soniarus bersain dan faton ei harweinydd lliwgar, y diweddar maestro Glyn Jones.