CEFNCELFI
Kewin Kelvi 13ydd ganrif. LlDC
Keven Kellvy 1572 Cilybebyll 1 LlGC
Ros Keven Kelvie 1610 Cilybebyll 1 LlGC
Tir Keven Kelvi 1631 Cilybebyll 2 LlGC
Enw ar fferm, ger y Rhos, Pontardawe ym mhlwyf Cilybebyll yw Cefencelfi. Mae’r enw’n cynnwys dwy elfen, cefn (yngenir fel cefen yn ne Cymru) ‘esgair bryn, trum’ ac ail elfen sy’n anghyffredin mewn enwau lleoedd, celfi.
Mae pawb yn gyfarwydd a’r enw torfol celfi sy’n golygu ‘dodrefn, moddion tŷ, nwyddau’ ond fyddai neb yn disgwyl gweld y celfi yma ar gefnen o dir uchel allan yn yr awyr agored! Ac yn wir nid dyma yw ystyr y celfi sydd yn yr enw Cefencelfi. Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn dangos bod ystyr henach i’r enw gwrywaidd unigol neu dorfol celfi sef ‘colofn, pilar, post’ a dyna yw’r ystyr yn yr enw Cefencelfi, sy’n cyfeirio at ddwy garreg hirfain a oedd ar un adeg fwy na thebyg, hyd at bum troedfedd o ran hyd, yn sefyll mewn dau gae cyfagos ar drum ger y Rhos, Pontardawe.
Mae Llyfr Du Caerfyrddin o’r drydydd ganrif ar ddeg yn cynnwys Englynion y Beddau lle ceir ‘E tri bet yg kewin kelvi’ (y tri bedd yng nghefen celfi) :-
E tri bet yg Kewin Kelvi,
awen ae divaud imi:
bet Kinon garv y duyael,
bet Kinvael, bet Kinveli.
Mae Gwynedd O Pierce (Ar Draws Gwlad t19) yn dweud ‘fe gafwyd tystiolaeth bur sicr fod yno dair o’r meini hynny ar un adeg’ (ar Gefncelfi ) ac mae’r celfi hynny yw E tri bet yg kewin kelvi Englynion y Beddau. Ystyr enw Cefncelfi felly yw ‘cefn (y) colofnau’ neu ‘gefn (y) meini hirion’.
Gyda llaw, enwau tri gwron Cefen Celfi oedd Cynon, Cynfael (a) Cynfeli. Ydy hi’n bosib taw dyma’r Cynon a goffeir yn enw ein hafon ni yma yng Nghwm Cynon?