Darwynno

DARWYNNO

Ga i gyntaf oll ddiolch i D. Les Davies am ei eiriau caredig yn rhifyn blaenorol Clochdar. Mae’n dda bob amser i ddarllen ei sylwadau craff.

Yr enw dan sylw yn y rhifyn hwn yw Darwynno. Enw ar hen ffermdy ym mhlwyf Llanwynno, a fu’n wag oddiar y 1950au ar ôl iddo gael ei brynu gan y Comissiwn Coedwigaeth, ond sydd bellach wedi ei adnewyddu ac yn ganolfan gweithgareddau awyr agored.

Canolfan Gweithgareddau Awyr Agored Daerwynno wedi ei adnewyddu gan wirfoddolwyr y mudiad.

Mae hen ffurfiau ar yr enw yn dangos Darwynno 1833, Daer Wynno 1666 a 1638 a Tir Dar Wonno 1570. Wrth edrych arnynt mae’n hawdd iawn dyfalu taw dâr (derwen) sydd yn yr enw, tebyg i enwau lleoedd Aberdâr, Cwmdâr, Dârowen ag ati. Ond mae ffurfiau 1666 a 1638 ynghŷd ac enw presenol y ganolfan yn dangos daer.

Mae R. J. Thomas yn ei draethawd estynedig ar ‘Astudiaeth o Enwau Lleodd Cwmwd Meisgyn’ tud. 86, yn dangos taw’r gair daear sydd yn yr enw. Mae’r enw daer ‘yn ffurf amrywiol ar yr enw daear’. Mae haearn yn newid i harn (hærn), claear i clar (clær) a daear i dar (dær) yn y dafodiaith leol. Ystyr Darwynno/Daerwynno felly byddai ‘tir Gwynno’. Mae ffurf Tir Dar Wonno 1570 yn engraifft o ailadrodd, gyda tir a dar yn gyfystyr. Mae’n bosib i hyn ddigwydd drwy gamddeall ystyr dar. ‘Diamau mai rhodd i’r ancr Gwynno yn ei gell ydoedd y darn tir hwn yn wreiddiol’ (Op.cit.).

Digwydd enw Gwynno yn enwau Darwynno, Llanwynno, Cefn Llanwynno (Cwm Cynon), Hafodwynno (Bedwellte) ac ym Maenor (Wynno) a elwir Vaynor/Y Faenor ger Merthyr Tudful.

Trueni mawr nad yw gwŷr mapiau’r OS wedi dysgu sut i sillafu enw Gwynno. Roeddent yn dal i sgrifennu Darwonno a Llanwonno ar Pathfinder 1129 yn y flwyddyn 1990 ac maent yn parhau i wneud hynny ar eu mapiau arlein presenol. Mae Genuki, Wikipedia a sawl Gymdeithas hanes yn euog o’r un gamsillafu.

Gan fy mod yn ei dweud hi, mae’n rhaid i mi gwyno unwaith eto am yr arwyddion ffyrdd sy’n anwybyddu enw Tresalem. Tu allan i’r coleg newydd ger y Trap mae arwydd newydd sbon yn datgan ‘Robertstown Ind. Est./Yst. Ddiw. Robertstown’. Mae hwn yn sarhad i Gymry Cymraeg Cwm Cynon. Os na byddwn yn ofalus bydd enw Tresalem yn diflannu’n gyfangwbl i’r angof!

DMJ