Y CWTSH
Enw ar fferm gynt ym mhlwyf Llanwynno yw’r Cwtsh neu Aber llechau. Heddiw mae Aberllechau Road yn Wattstown yn ein hatgoffa am yr hen fferm roedd wedi ei lleoli ger y fan mae Nant Llechau yn arllwys i mewn i afon Rhondda fach. Sillafwyd yr enw megis Cwtch ar fap yr Ordnans 1833, a felly hefyd gan Glanffrwd (Llanwynno, tudn 219) lle mae e’n sôn am ei ddadcu a’i famgu – “tad a mam fy nhad; priodasant ac aethant i fyw i’r Cwtch” . Rwy’n siwr i chithau hefyd weld y sillafiad yma i’r gair pan fyddwch mewn siop anrhegion yng Nghymru ond cwtsh yw’r sillafiad cywir yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru.
Mae cwtsh yn enw ac yn ferf. Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd a’r cwtsh dan star a’r cwtsh glo gynt, ac rydyn ni’n dweud “cer i’r cwtsh” wrth gi pan rydyn ni am iddo fynd i’r cwb. Yn ogystal, mae pawb wedi rhoi neu chael cwtsh cynnes gan berthynas neu ffrind.
Beth felly yw ystyr cwtsh yn yr enw-lle ym mhlwyf Llanwynno? Mae GPC yn rhoi “Glwth, gorweddfa; gorchudd; congl fechan, cuddfan; cwb ci:” ac mae’n debyg byddai un o’r rhai hynny yn ateb y cwestiwn. Mae R. J. Thomas (Meisg. 19) yn awgrymu “ bwthyn, cwt, gwâl” ac yn ein hatgoffa mae benthyg o’r Saesneg couch ydyw. Digwydd yr enw yn Cwtsh y cwm yn Llantwit Fardre a gynt ym Mhenarth lle mae Gwynedd O. Pierce yn cynnig ‘shed fach, allandy, bwthyn neu adeilad tebyg’ (cyf. PNDPH 162).
Rwy’n siwr byddai Cwtch Aberllechau yn enw ar fwthyn bach fferm diddos ac annwyl iawn i deulu Glanffrwd, a phetasai Geiriadur Prifysgol Cymru ar gael yn ystod ei oes, y tebygrwydd yw byddai Glanffrwd ei hun wedi sillafu’r cwtch ar y ffurf cwtsh .
DMJ