"Erbyn 1901, mae map yr Ordnans yn dangos Gwrhyd, Gwrhyd bach a Gwrhyd Plantation (gweler uchod). "
Plac ar dalcen ffermdy’r Gwrhyd yn dangos cysylltiad y fferm a marchogaeth ceffylau. Er engraifft, bu Thomas Williams, Gwryd, yn llwyddianus iawn wrth ddanos ceffylau mewn sioeau lleol yn yr 1890au (Aberdare Times).
Heddiw mae Fferm y Gwrhyd o dan ofal Mr. Tony Thickett, a buodd e mor garedig a gadael i mi dynnu lluniau’r adeiladau yno.
GWRHYD
Enw ar fferm uwchben Abernant-y-wenallt yw’r Gwrhyd, ar dir rhwng Nant y Wenallt a Nant y Geugarn.
Roedd Gwryd gynt yn rhan o dir y Pumpunt (Tir y pymp=pynt, c1615) ac yn perthyn i William Mathew esquier. Yr engreifftiau ysgrifenedig cynharaf o’r enw Gwrhyd neu Gwryd yw Tir y Gwryd 1630, yng ngofal Llewelyn Evan Merick, a Tire y gwryd yssa a Tire y gwryd ycha 1638, dan berchnogaeth Christopher Mathew. Yn Restrau’r Degwm 1844 roedd fferm y Gwryd ym mherchnogaeth yr Ardalydd Bute gyda’r deiliad Thomas Pugh yn gofalu am gaeau’r Worglodd (gweirglodd – cae gwair), Cae dan y ty, Cae bach, Rhos waun, Cae bach, Cae main ac eraill. Ym 1853, mae Thomas D. Llewelyn (Gardd Aberdar, 12.) yn esbonio “Mae yma hefyd ddau dyddyn a elwir y Gwryd a’r Gwryd-canol,- ystyr y gair yw chain, math o fesuriad ag oedd gan yr hen bobl ar diroedd (gwel Eiriadur Titus), ond gelwir y Gwryd-canol yn bresenol, Tir-y-felin newydd:”. Erbyn 1901, mae map yr Ordnans yn dangos Gwrhyd, Gwrhyd bach a Gwrhyd Plantation (gweler uchod).
Ystyr wreiddiol yr enw gwryd neu gwrhyd (gŵr a hyd) yw hyd y breichiau estynedig o flaenau bysedd y naill law hyd at flaenau bysedd y llaw arall – hynny yw tua dwy lathen.
Dyma’r enw a ddefnyddir wrth fesur dyfnder y môr – ‘fathom’ yr iaith fain. Mae hefyd yn hen fesur tir Cymraeg yn enwedig mesur o dir rhwng dwy dref neu ddwy bentrefan - “hamlet”. Dyma, mwy na thebyg yw’r ystyr yma, gan fod y Gwrhyd wedi ei leoli rhwng pentrefannau Llwydcoed a Chefnpennar.
Mae R. J. Thomas (Meisg. 75) yn ychwanegu “Os tybir bod yr e. gwryd i’w gysylltu â rhyw gawr neu’i gilydd neu berson anarferol o faentioli mewn chwedloniaeth yn yr enwau lleoedd y’i ceir ynddynt, yna y mae rheswm dros ei gymryd fel mesur tir. Gall mai yn yr ystyr o fesur rhwng y tir hwn a’r tir nesaf iddo y’i ceir yn yr enw hwn, h.y. tir â gwryd o bellter rhyngddo a’r tir cyfagos.”
Y mae’n digwydd yn yr enwau lleoedd Pen-y-gwryd, Sir Gaernarfon, a Gwryd yng Nghwmtawe, Aberteleri, Llangafdan a Llanfihangel Nant Bran.
Rwy’n ddiolchgar i Mrs Andrea Wigley a Mr Tony Thickett am eu cymorth wrth lunio’r erthygl hon.
DMJ.