Heol Gwyrosydd

Mae’r enw Gwyrosydd yn adnybyddus i bawb yng Nghwm Cynon fel enw barddol Daniel James awdur ‘Nid wy’n gofyn bywyd moethus’ sy’n cael ei chanu ar y dôn ‘Calon Lân’. Er iddo gael ei fagu yn Nhreborth, Abertawe, bu’n byw yn Aberpennar (neu'r ‘Mount’ iddo fe) am ugain mlynedd tua diwedd ei oes. Dyma ei bennill glodfawr am ‘y Mount’ a sgrifennodd ym 1903 :

‘Mae y Mount yn em i mi – ei hudol

Goedydd sy’n deml tlysni.

Paradwys yn priodi

Yw ei dawn a’m henaid i.’

Beth am ei enw barddol? Ydy Gwyrosydd yn enw lle neu a oes rhyw arwyddocad arall i’r enw. Ei enw barddol cyntaf oedd ‘Dafydd Mynyddbach’ (ar ôl Mynyddbach ger Treboeth) ond erbyn 1879 roedd wedi newid i ‘Gwyrosydd’ ar awgrym ‘Dafydd Morganwg’ sef enw barddol yr eisteddfodwr a’r hanesydd David Watkin Jones, awdur ‘Hanes Morganwg’ ac ‘Yr Ysgol Farddol’.

Mae’r reswm am newid yr enw yn ddirgelwch ac mae ‘Gwyrosydd’, dewis Dafydd Morganwg, yr un mor dywyll o rhan ystyr a chysylltiad. Yr unig oleuni o rhan lleoliad yw bod Dafydd Morganwg yn defnyddio’r enw ‘Caer Gwyrosydd’ am gastell Ystumllwynarth yn ‘Hanes Morganwg’ (1870), tud. 438. Yn llyfr ‘The Cambrian Journal’ (1854) tud. 130, dwedir bod llys Urien Rheged wedi ei leoli yn ‘’Caer Gwyrosydd or Ystum Llwynarth’’.

Felly byddai’r enw barddol ‘Gwyrosydd’ yn dderbyniol iawn i Daniel James – yn fwy hanesyddol ac urddasol efallai na ‘Dafydd Mynyddbach’.

Ac ystyr Gwyrosydd? Mae’r gair cymraeg ‘gwyros’ yn dynodi’r planhigyn ‘privets’ yn Saesneg. Ydy hi’n bosib taw’r gwyros oedd llwyn Ystumllwynarth?

Ar ôl treulio ugain mlynedd yn ‘Y Mount’ dychwelodd Gwyrosydd i’w ardal enedigol,ac yno bu farw ym 1919. Mae ‘Ysgol Gynradd Gwyrosydd’, a ‘Heol Gwyrosydd’, Treboeth wedi eu henwi ar ôl y bardd o Dreboeth. Ond rhaid cofio iddo dreulio ugain mlynedd hapus iawn yma yng Nghwm Cynon, pymtheg ohonynt yn gweithio yn un o byllau glo Nixon, a’r pum mlynedd olaf, yn agor beddau yn Aberpennar.