Dros y blynyddoedd, digwydd yr enw Trebanog ar sawl fferm ym mhlwyf Penderyn ee. Trebanog 1555, Tre bannog Vach 1783, Trebannog Fawr 1794, Trebannog Genol 1705 a Trebannog Uchaf 1776. Mae map yr Ordnans 1991 yn dangos Tre-banog-fawr, Tre-banog-uchaf a Tre-banog-fach. Hefyd, ceir Velin Trebannog ym 1768. Yn ôl Dewi Cynon “yr olaf (Trebanog) a fu yn malu ddiweddaf (sic), ond mae hithau bellach yn segur er ys blynyddau.” (Hanes Plwyf Penderyn 1905, tud. 21).
Mae Dewi Cynon yn esbonio ystyr Trebanog (op. cit. 12) megis ‘tref – cartref, preswylfod. Ban – banog – amlwg, eglur’. Mae eraill hefyd wedi cysylltu’r ail elfen banog gyda’r gair ban ‘brig, copa, ucheldir’ ee. Bannau Brycheiniog, Tal-y-fan etc.
Nid yw’n debygol fodd bynag taw ban (crib, copa, ucheldir) gyda’r olddodiad –og yw ail elfen Trebanog. Nid yw tiroedd ffermydd Trebanog ar dir uchel iawn. Yn ogystal, mae elfennau sy’n dilyn tref yn treiglo’n feddal fel rheol, ee. Trefaldwyn (Baldwin), Drefach (bach), Treboeth (poeth) etc. Os taw banog oedd yr ail elfen, byddai’r enw wedi datblygu’n Trefanog.
Gan taw Trebanog sydd yma, mae’n fwy tebygol taw panog yw’r ail elfen. Mae panog yn cynnwys yr enw pan ‘plu’r gweunydd’ gyda’r olddodiad ansoddeiriol –og.
Plu’r gweunydd
Mae rhestr Ystad Briton Ferry yn y flwyddyn 1776 yn dangos bod gan fferm Trebannog Uchaf gae gyda’r enw ‘Banwen’ sef pan a gwaun cf. Banwen, Dyffryn Cellwen. Mae hyn yn cadarnhau roedd y planhigyn yn bresennol ar diroedd Trebanog.
Rhestr Briton Ferry 1776 yn dangos Banwen ar dir Trebannog Uchaf. (Gwsnth. Archif Gor. Morg.)
Ystyr Trebanog felly byddai fferm ar dir lle byddai plu’r gweunydd yn amlwg. Mae’r un gair pan yn digwydd yn enw Trebanws/Trebanos yng Nghwm Tawe (gweler Yn Ei Elfen Bedwyr Lewis Jones, tud. 85.)