Porthcawl

Môr-fresych yn tyfu ar lan y môr

Rwy’n cofio, pan yn grwt pump neu chwech mlwydd oed, mynd ar drip Ysgol Sul i Borthcawl a chwilio yn ofer am byllau cawl cennin neu gawl pys. Yr esboniad ces i am y siom oedd taw “Y gaeaf yw tymor y cawl nid yr haf”.

Dysgais yn ddiweddarach bod dau ystyr i’r gair cawl; yn gyntaf ‘Saig a wneir o lysiau (ac yn aml o gig) wedi ei berwi mewn dŵr a’u sesno’, (cawl mam), ac yn ail ‘ Bresych, cabaets, llysiau coginio’. Mae’r gair cawl yn ffenthyciad o’r Lladin caulis sydd hefyd wedi ei fenthyg gan y Saeson megis kale, a hwn hefyd yw elfen gyntaf eu cauliflower nhw.

Mae’n debyg mai’r ail ystyr ‘planhigyn o deulu’r bresych’ yw elfen olaf Porthcawl, neu ‘cawl/bresych y mor’ (sea kale) i fod yn hollol gywir.

Adnabyddir bresych y môr wrth yr enwau cawl y môr, môr-fresychen/môr-fresych, cawl y graig, Bot. (Crambe maritima) neu yn Saesneg sea kale, sea-colewort a scurvey grass.

Mae’r planhigyn yn tyfu’n naturiol ar arfodiroedd Ewrop ond medrwch ei dyfu yn yr ardd os mynnwch.

Cafodd ei alw’n fresych y môr oherwydd ei gynefin, ac iddo gael ei biclo a’i fwyta gan forwyr ar fordeithiau hirion er mwyn osgoi’r sgyrfi. Paratoir bôn y planhigyn megis asbaragws a choginir y dail fel dail bresych, er bod yr hen ddail yn dueddol o fod yn sur ac yn galed i’w cnoi.

Mae’r elfen cawl i’w weld yn enwau Heol-y-cawl (Caerdydd a Llanilltud Faerdre), Nant-y-cawl (Llanddewibrefi) a Gowlog (Llancarfan) [y, cawl & –og].

Mae’r elfen gyntaf porth yn golygu harbwr ac mae hwnnw’n bresennol yn ffurf Porth Cawl 1627.

Ym 1828 agorwyd tramffordd a phorthladd newydd ym Mhorthcawl / Pwll cawl er mwyn cludo a thrawsforio nwyddau gweithfeydd ardal Maesteg, Dyffryn Llynfi. Hwnnw oedd dechreuad datblygiad a thyfiant tref Porthcawl. Ar ddechreu’r ugeinfed ganrif bu twristiaeth yn hwb i economi’r dref ac mae hynny’n parhau. Caewyd y doc yn y 1920au ac aeth y rheilffordd dan fwyall Beeching yn y chwedegau cynnar, ond mae’r harbwr (neu’n hytrach y Marina Newydd) yn dal i wasanaethu llongau bach a chychod hyd heddiw.