PENRHIWCEIBER
Mae Penrhiwceiber yn enw ar bentre bellach, ar ffordd y B4275 rhwng Aberpennar ac Abercynon. Tyfodd yn bentre pan suddwyd pyllau glo yma ar dir fferm Penrhiwceiber gan y ‘Penrhiwceiber Coal Company’ ym 1873 (papur y ‘Cambrian’, Abertawe).
Mae enw fferm Penrhiw ciber i’w weld ar fap yr Ordnans 1814 ac mae’n ymddangos, gyda’r fannod, fel Penrhiw’r ceibir ar ddogfen ym 1788. Ond cyn hynny, yr enw am y fferm oedd Rhiw’r Ceibr (Rhyw Kibyr 1771; Riw’r Kibier 1748). Mae’n amlwg roedd y fferm ar rhiw’r ceibr, neu ar ben rhiw’r ceibr, ond beth yn gymwys yw arwyddocad yr elfen olaf?
Mae William Bevan, yn ei lyfryn Hanes Mountain Ash, 1896, yn cynnig Pen rhiw cae byr ynghŷd a Pen rhiw ceubren ac yn dweud roedd yr olaf yn boblogaidd yn y 1860au. Mae hefyd yn crybwyll ceibr, -“trawst, cwpl tŷ, dist; rafter, beam, joist” (GPC).
Mae Glanffrwd, yn ei lyfr Llanwynno, yn llawer mwy pendant ynglŷn a cheibr. “Pan wnaethpwyd y ffordd hon gyntaf, nid oes lle i amau ei bod yn myned trwy ganol fforest fawr bob cam o Mountain Ash hyd ben tir y Lan Uchaf, hen dderw mawrion oedrannus, yn cario nodau canrifoedd ar eu cyrff ac ar eu canghennau, rhai ohonynt ar ochrau a cheulennydd y fforest, yn gwywo gan oedran, yn estyn eu breichiau noethion i gyfarfod yr awelon oedd wedi curo arnynt am ganrifoedd, ac yn edrych yn awr yn nyddiau henaint a gwywdra fel Ysbrydion Cwmcynon, rhesi mawrion o geubrennau neu geibr, y torrodd yr hen breswylwyr ffordd rhyngddynt i’w ceffylau bychain i deithio o ddyffryn Cynon i Ynys-y-bŵl. Digon naturiol oedd galw heol fel hon yng nghanol gwig fawr yn Rhiw-y-ceibr.” Disgrifiad gwych gan un o’r hen fro, am nenbrennau yn y goedwig.
Mae Gwynedd O. Pierce a Geiriadur Prifysgol Cymru yn mynd ymhellach. Mae nhw’n cynnig cafodd Rhiw’r Ceibr yr enw ‘am fod coed addas i lunio ceibrau yno’. Ai achos roedd canghennau’r coed yn ffurfio ceibr yn y goedwig neu am eu bod yn addas i’w defnyddio yn geibrau tai, y bathwyd enw Rhiw’r Ceibr? Ni allwn fod yn siwr, ond mae’r llun tynnodd geiriau Glanffrwd yn dal yn fy nychymig, ac yn f’atgofio am linellau bythgofiadwy R Williams Parry –
“A llonydd gorffenedig
yw llonydd y Lôn Goed,
O fwa’i tho plethedig
I’w glaslawr dan fy nhroed.”
- ac rwy’n hoffi credu taw Rhiw’r Ceibr oedd ein bwa to plethedig ni yma yng Nghwm Cynon.