Y SGETI
Enw ar ardal, bellach yn rhan o Ddinas Abertawe, yw Y Sgeti. Mae sawl ymdrech wedi ei wneud i esbonio ystyr yr enw, gan gynnwys y diweddaraf, yn y Western Mail Sadwrn Mai
7fed, 2016, lle mae Robin Turner yn cynnig “Sketty is thought to be an anglicised version of the Welsh Is Maen Keti, (below Keti’s stone).”
Yn anffodus nid yw Mr Turner wedi edrych yn ôl at ffurf cynnar o’r enw – Enesketti 1319, sy’n dangos yn glir taw elfennau’r enw yw ynys (Enes), Cetti (ketti) sydd yn gyfystyr a thir ar lan afon sy’n eiddo i person o’r enw Cetti. Ceir ynys gyda’r un ystyr (tir ar lan afon) yn Ynyscynon, Ynysllwchwr, Ynysboeth, Ynyslwyd, Ynysmintan etc.
Dros y blynyddoedd cwtogwyd Enesketti i le Skette 1400, Skety 17 ganrif ac Yscetty 1867. Nis gwn pwy yw’r Cetti enwedig, ond mae’r un enw personol yn digwydd yn Cilgeti, Sir Benfro, Kylketty 1330, Kilgetty 1586, ‘cilfach, cornel’ Ceti.
Mae Maen Ceti yn enw ychwanegol ar Maen Arthur, Cefn Bryn, Brô Gŵyr, rhyw ddeng milltir i ffwrdd o’r Sgeti. Byddai sawl pentref yn medru hawlio’r enw ‘Is Maen Keti’ (Robin Turner) os byddai’r fath enw mewn bodolaeth. Rhaid chwilio am yr engreifftiau cynnar bob amser er mwyn esbonio ystyr enw lle.
DMJ