Enw ar bentref gerllaw Treforys, Abertawe yw Cwmrhydyceirw. Mae’r enw yn disgrifio llecyn ar lan afon yr arferai ceirw ei fynychu. Delwedd wledig hardd.
Ond does dim llawer o oed i’r enw presennol. Cafodd ei fathu ar ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif. Nid yw’r enghraifft gyntaf o Gwmrhydyceirw yn digwydd tan 1871, a hynny ym mhapur newydd wythnosol y Cambrian, yn Abertawe.
Cyn hynny, Cwm-rhyd-y-cwrw oedd enw’r pentref, ac yn gynt roedd Cwm-rhyd-y-cwrw yn enw ar dyddyn gyda 41 erw ar stad Popkin. Mae ffurf cynharaf Cwm-rhyd-y-cwrw i’w weld ar fap un modfedd yr Ordnans 1833. Rhwng 1841 a 1901, sgrifennwyd Cwmrhydycwrw ar ffurflenni cyfrifiad ardal Clâs. Rhwng 1845 a 1889 mae 12 o erthyglau yn y Cambrian wedi eu lleoli yn Cwmrhydycwrw. Ar fap 1884 chwe modfedd yr Ordnans ceir Cwm-rhyd-y-cwrw a Cwm-rhyd-y-cwrw Brook. Mae’r map hwn yn dangos yr union fan lle mae’r rhyd ar y nant honno.
Paham cafodd y rhyd yr enw ‘rhyd y cwrw’?
Cred rhai iddo gael yr enw oherwydd i gwrw gael ei gludo ar hyd y ffordd a thrwy’r rhyd. Mae hwn yn annhebygol. Mae’r enw ar fap 1833. Yr adeg honno roedd y rhan helaeth o dafarndai (a ffermydd) yn macsu cwrw eu hunain. Nid oedd bragdai yn ardal Dreforys hyd at ganol y 19eg ganrif. Cred eraill y defnyddid dwr yr afon i facsu cwrw. Mae’r esboniad yn fwy tebygol i wneud a lliw dwr yr afon. Pan fod pobl, anifeiliaid neu cerbydau yn croesi rhydiau mae gwely’r afon yn corddi ac mae lliw’r dwr yn newid. Rhoddir yr enwau Rhydgoch neu Rhydfelen etc i’r rhydiau yma.
Pan fydd dwr yr afon yn llifo’n gyflym gan daro’n erbyn cerrig man a chreigiau, mae’n byrlymu ac yn ewynnu. Gall hyn yn edrych yn debyg iawn i gwrw – yn goch ac yn ffrothlyd. Dyma’r rheswm, o bosib, y cafwyd ‘rhyd y cwrw’.
Ond paham newidiwyd yr enw i ‘rhyd y ceirw’? Wel, yn sicr er mwyn parchusrwydd.
Dylanwad mudiad dirwest ar ddiwedd y 19eg ganrif ynghyd a thwf crefydd . Codwyd capeli Tabernacl ac Ebeneser yn y pentref yn y 1880au. Roedd rhan fwyaf o weinidogion yr anghydffurfwyr yn llwyrymwrthodwyr a chanddynt wrthwynebiad cadarn i alcohol. Ni fyddai’n weddus i weinidogion, na diaconiaid, na chynulleidfaoedd niferus y ddau gapel fyw mewn lle gyda diod meddwol yn yr enw! Erbyn degawd gyntaf yr ugeinfed ganrif roedd swyddfa post y pentref wedi rhoi sêl bendith ar enw parchus a theg Cwmrhydyceirw gan adael y ‘cwrw’ i’r haneswyr a’r hen fapiau.