Bryntelych

Enw ar ffermdy gynt, ym mharsel Gwenlais, plwyf Llandeilo Tal-y-bont yw Bryntelych, sydd bellach yn fwy adnabyddus fel y Glamorgan Arms, enw gwesty ger Pontlliw, Abertawe.

Mae geirdarddiad Bryntelych yn ddiddorol. Y geirdarddiad poblogaidd lleol yw taw llygriad ar Bryn tyle’r ych yw’r enw, ond mae hyn yn bell o’r gwirionedd ac yn diraddio ail elfen yr enw.

Digwydd yr enw Bryntelych ar fapiau a dogfennau mewn gwahanol orgraffau dros y canrifoedd, megis Bryntelich 1830, Brintelech vach 1764, Brintellech Vaure 1692 hyd at Bryn tellich 1650. Does yr un fap neu ddogfen yn sôn am fryn tyle’r ych!

Dwy elfen sydd i’r enw sef bryn a telych. Mae bryn yn elfen ddigon cyffredin mewn enwau llefydd yng Nghymru ac yn hawdd i’w esbonio, sef codiad tir, tir uchel sy’n llai na fynydd etc. ond mae telych yn llawer fwy prin ac anodd.

Gwelir telych yn yr enwau canlynol: Penlantelych a Cefntelych ger Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, Telych, plwyf Llandingad, Sir Gaerfyrddin, Telick, Penmaen, Gwyr, Bryntelych, ger Pontlliw yn ogystal a Telich clonman a Telich clonnam o’r ddeuddegfed ganrif yn Llyfr Llandaf.

Ond mae telych yn perthyn i lyfr sydd llawer hŷn na Llyfr Llandaf. Mae’n digwydd ar ochr dudalen Llyfr St. Chad, sydd heddiw yn eglwys Gadeiriol Caer Lwytgoed, Swydd Stafford, ond a fu gynt ar dir Cymru, mwy na thebyg yn Llandeilo fawr. Copi o’r efengylau yn Lladin yw Llyfr St. Chad ond mae ynddo weithred wedi ei sgrifennu yn Hen Gymraeg a Lladin sy’n sôn am rhodd o dir. Un o’r tystion yw Teliau sef Teilo ei hun, ac enw’r tir yw Tir Telih hynny yw, Tir Telych. Bu Teilo farw tua 580, felly mae’r ysgrifen yn Llyfr St. Chad yn gopi ar ddogfen o’r chweched ganrif.

“Hwn yw’r darn hynaf o Gymraeg ysgrifenedig a feddwn, ac ysgrifennwyd ef yn niwedd yr wythfed ganrif”. Datblygiad Yr Iaith Gymraeg, tud. 98.

Luc yr efengylwr yn Llyfr St. Chad.

Felly mae telych yn hen, hen elfen mewn enwau lleoedd, ac mae’n digwydd yn “y darn hynaf o Gymraeg ysgrifenedig a feddwn”. Dyw’r arbenigwyr ddim yn siŵr beth yw ystyr telych. Dyfynnir Yr Athro Dafydd Jenkins a Ms Morfydd E. Owen yn ‘The Welsh Marginalia of the Lichfield Gospels’ gan ddweud iddyn nhw gredu bod y gair telych, wedi ei ddefnyddio i ddisgrifio darn o dir, ond gynt, mae’n debyg, yn enw ar berson.

Mae’r Athro Melville Richards [Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru XVlll (1973)] o’r farn i’r llyfr fynd o Landeilo Fawr drwy law Hywel Dda yn y flwyddyn 934, i Gaerwynt (Winchester) yn rhodd i Athelstan Brenin Wessex a Mercia, ac yna, oddi wrtho fe, i Aelfwine Esgob Caer Llwytgoed. Yna, cafodd Llyfr Llandeilo Fawr ei enwi 'Book of St. Chad' er cof am Chad, Esgob gyntaf Eglwys Gadeiriol Gaer Llwytgoed.

Felly, mae gan fferm Bryntelych a phlwyf Llandeilo Tal-y-bont ddau gyswllt gyda’r Gymraeg ysgrifenedig henaf sydd ar glawr, sef yr enwau Telych a Teilo. Mae’r ddau enw yn ein hatgoffa o’n hanes eglwysig cynnar.

Mae telych yn perthyn i un o drysorau’r iaith Gymraeg ac yn rhy werthfawr o lawer i gael ei ddiraddio a’i iselhau i’r tyle’r ych gyffredin, ffansïol a lletchwith.

Deric Meidrum John Mawrth 2011