Tai Scale

Pan oeddwn i’n byw yng Nghwmbach, bues yn trafod geirdarddiad Scales Row a Scales Arms gyda chymydog. Roedd e wedi clywed y rhoddwyd yr enw ‘scales’ ar y rhes o dai a’r tŷ tafarn oherwydd roedd eu lleoliad yn ymyl peiriant pwyso badau (scales yn yr iaith fain) wrth ochr yr hen gamlas gynt.

addasiad o fap yr ardal c1919

Yn sicr, mae Scales Row a’r Scales Arms (sylwch ar P. H. y map uchod) wedi eu lleoli yn ymyl y gamlas, ond does dim sôn am beiriant pwyso badau yno.

Agorwyd tafarn y Scales Arms tua chanol yr 1840au. Yng nghyfrifiad 1851 roedd y Scalys Arms (sic) dan ofal tafarnwr o'r enw Timothy Theophilus. Roedd e’n yn byw yno gyda’i wraig Matty, ei unig fab, pedair merch a morwyn tŷ. Erbyn 1861, roedd y cyfrifiad yn nodi Scales Arms yn ogystal a Scales Arms Row (hynny yw, rhes o dai yn ymyl y tŷ tafarn). Erbyn 1871 roedd Scales Arms Row wedi ei gwtogi i Scale Row.

Ym 1850 cyhoeddwyd ewyllys William Thomas David, perchennog a deiliad diweddar Abernant-y-groes Uchaf (Ewyllysiau LlGC). Ymhlith yr etifeddion, enwir ei feibion David, Daniel a Llewelyn ynghyd a Timothy Theophilus, un o’i feibion yng-nghyfraith. Mae’n debyg taw ef yw’r gwr a enwir yn Timothy Row. (Mae W. T. David yn gadael dau dŷ i Timothy Theophilus ‘which he has built on Abernantygroes ucha farm.’ Mae’n bosib taw y rhain yw tai cyntaf y Timothy Row diweddarach.) Ond, mae W. T. David yn gadael ‘one public house called the Scalis Arms’ (sic) lle mae Timothy Theophilus yn byw, i’w feibion Daniel David a David David.

Roedd buddsoddiadau gwerth miloedd gan W. T. David - yn yr Aberdare Gas Company, yr Aberdare Coal Company, ac yn yr Aberdare Canal Company. Y cyfranddalwyr mawr yn y ddau gwmni olaf oedd teuluoedd y diweddar George a John Scale, cyn-berchnogion gwaith haearn Aberdâr. Yn yr 1840au roedd Henry Scale ac Edward Watkin Scale, meibion George Scale, yn byw yn Aberaman House gerllaw. Yn ogystal, roedd George a John Scale, ar un adeg, yn berchen ar Gamlas Aberdâr (agorwyd 1812.) a lifai ar draws tir Abernantygroes uchaf. Enw’r teulu hwn sydd yn enwau’r Scales Arms a Scales Row, Cwmbach. Caewyd drysau’r tafarn ym 1938 ac mae’r adeilad bellach yn nhŷ annedd - Scales House. [Dylid nodi hefyd bod Scales Arms Trecynon, wedi ei enwi yn Old Aberdare Cyf. 2, tud 125.]

Scales Arms yn y 1930au. (Diolch i Lyfrgell Aberdâr) Scales House yn 2012 (Diolch i Jeff Powell)

Roedd Scales Houses gynt yn Llwydcoed. Mae rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu yng nghofrestri’r plwyf yn yr iaith Cymraeg megis Tair Scale (sic) 1853, Tai’r Scale 1846, Tai Scale 1842,etc. Adeiladwyd hwy yn hanner gyntaf y 19eg i letya gweithwyr gwaith haearn George a John Scale. Heddiw mae New Scales Houses, Llwydcoed, yn ein hatgoffa am y teulu diwydiannol hwn.