NANT GWRELYCH
Enw ar nant s’yn codi ger Llyn Fawr yng ngogledd gorllewin Hirwaun Wrgant. Mae Nant Gwrelych (OS 1991) yn llifo heibio ffermydd sydd yn dwyn ei henw megis Blaen Gwrelych (Blaengwrelych 1789) ac Ystum Gwrelych (Estunwrelech 1253); yna mae’n arllwys i mewn i Afon Nedd yn Abergwrelych (Aber Gwrelych 1833) ger Pont Walby a Glyn-nedd.
Dros y blynyddoedd mae sawl arbenigwr ar enwau lleoedd wedi ceisio esbonio ystyr yr enw, ac rwy’n ddiolchgar i’r Athro Emeritws Gwynedd Pierce am ei erthygl ar yr enw yn Ditectif Geiriau gynt yn y Western Mail.
Nododd Gwynedd Pierce, i’r Athro Melville Richards dderbyn taw dwy elfen oedd i’r enw sef ‘gwre’ a ‘llych’. Mae llych yn ffurf arall ar llwch ‘pwll, cors, lle gwlyb’ ac yma mae’n cyfeirio at y nant. Mae ‘gwre’ yn hen air. Sgrifennodd Syr Ifor Williams amdano yn ei nodiadau ar Canu Aneurin gan ddweud ei fod yn hen ffurf unigol, lluosog ‘gwreint’, gyda’r ystyr ‘pryfyn, cynrhonyn, gwyfyn’. Yna cafwyd ffurf unigol newydd ‘gwreinyn’.
Mae Nant Gwrelych, ‘nant pryfyn dwr’, yn perthyn i’r nentydd hynny sy’n cynnwys pryfed yn eu henwau megis Nant y Pryfed (Caernarfon); Chwil, Chwilog, Chwilwg, Chwilen, Chwiler (yn gyffredin); Nant y Gwybedyn (Trefaldwyn), Nant Gwybedog (Brycheiniog) etc.
Chwilen ddŵr Gwybedyn
Dyma ddau fath o bryfyn (gwre) yn yr enwau uchod.
Yn Lloegr ceir Gnatham, Dyfnaint, Midge Brook, Swydd Gaer, a Bugbrook, Northants. etc.
Rwy’n ddiolchgar i’r ysgolheigion uchod ac eraill am eu gwaith blaenorol yn y maes, sydd yn gymorth mawr i mi wrth geisio esbonio ystyron enwau lleoedd anodd.